A trydydd Pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019 yw…
Mae pencampwyr hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo Diwrnod Shwmae Sumae eleni (a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn), gan hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith.
Rydym yn hynod o falch i gael cyhoeddi taw ein trydydd pencampwr yw Nic Dafis – yn wreiddiol o’r Waun ger Wrecsam, ac sydd erbyn hyn yn byw yn Pontgarreg ger Llandysul. Mae Nic yn diwtor iaith gyda Dysgu Cymraeg i Oedolion trwy Prifysgol Aberystwyth, ac yn dysgu yn Aberteifi. Nid oedd Cymraeg ar aelwyd ei deulu yn Y Waun; y Cymry Cymraeg olaf oedd cenhedlaeth ei hen neiniau a theidiau. Nid tan iddo symud i fyw yng Nghaerdydd a chael swydd mewn siop lyfrau Cymraeg yn y ddinas benderfynodd Nic ddechrau meddwl o ddifri am ddysgu Cymraeg. Gyda chefnogaeth gref ei gyflogwr, mynychodd ddosbarthiadau “Wlpan” dan ofal Prifysgol Caerdydd, a dysgu’n gyflym: erbyn diwedd y tymor cyntaf roedd yn gallu ateb y ffôn, ac erbyn diwedd y flwyddyn, roedd yn gallu ymdopi â’r cwsmeriaid wyneb yn wyneb, yn lle llechu yng nghefn y siop yn dadbacio bocsys! Yn fuan ar ôl pasio’r arholiad “Canolradd”, symudodd Nic i fyw ger Llangrannog, ac yn fuan ar ôl hynny, ffeindiodd ei hunan yn dysgu dosbarth nos lefel Mynediad fel tiwtor. Tua’r un amser, dechreuodd gadw blog ar morfablog.com (sef y blog cyntaf yn y Gymraeg), ac yn 2002, lansiodd y wefan drafod maes-e.com – roedd y cyfnod yna yn un prysur iawn: dyddiau cynnar “y We Gymraeg”. Ac mae’r gwaith ar-lein yn parhau wrth iddo ddarparu cylchlythyr ar-lein i ddysgwyr yn ardal Aberteifi, sydd yn cynnwys y blog dysgu.com. Mae hefyd wedi bod yn sianeli mwy o’i egni mewn i gyfrannu tuag at ymgyrchoedd Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion/ XR) dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ceisio ‘Cymreigio’ y mudiad hinsawdd o du fewn, fel petai, a denu rhagor o Gymry Cymraeg at y mudiad. Fel yr esboniai:
“Mae gyda fi ddiddordeb arbennig mewn pontio rhwng y ddau fyd o ddysgu Cymraeg a bod yn weithredol yn yr ymgyrch i daclo’r Argyfwng Hinsawdd. Mae XR, fel mudiad rhyngwladol, wedi bod yn hapus iawn i gefnogi siaradwyr Cymraeg tu mewn i’r mudiad, ond rydym yn lleiafrif bach ar hyn o bryd, gyda llawer llai o bresenoldeb yn y mudiad nag sydd gyda ni ar lawr gwlad. Mae canran fwy o Gymry mewn grwpiau XR yn yr ardaloedd traddodiadol “di-Gymraeg” nag sydd yn y “Fro Gymraeg”, ac mae awydd mawr ‘da fi i ddarbwyllo rhagor o “Rebels XR” i fynd ati i ddysgu’r iaith ac yr un pryd i ddarbwyllo rhagor o siaradwyr Cymraeg bod lle iddyn nhw yn yr ymgyrch hinsawdd.
Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae Sumae, meddai Nic,
“Rwy’n ei weld yn gyfle arbennig i hybu’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau lleol, ac i ddathlu ein hiaith a diwylliant. Mae’n bwysig i gael y neges allan at “siaradwyr ansicr” y Gymraeg – pobl sy falle ddim yn cael cyfle bob dydd i ddefnyddio’r iaith – bod eu Cymraeg nhw yn wych, a bod rôl iddyn nhw yn yr ymdrech o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050. Fel rhywun sy wedi defnyddio llawn cymaint o Gymraeg ar-lein ag ydw i yn fy nghymuned leol “go iawn”, hoffwn i feddwl bod rôl gyda fi i drafod fy hanes yn y cyfryngau traddodiadol, ac i hybu’r Diwrnod trwy fy ffrydiau lu yn y cyfryngau cymdeithasol.”
Diolch i Nic am gefnogi’r ymgyrch eleni! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.cymru am fwy o wybodaeth a chymorth, a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd!