ShwmaeSumae 2013

ShwmaeSumae 2013

Shwmae Sumae yn agosau!

 

shwmaesumae15Hydref

“Ger y bar, ar faes chwarae, yn y gwaith, wrth ddesg neu gae, cwyd dy lais, Shwmae Su’mae!

Dyma trawiad trydar y prifardd Llion Jones am Ddiwrnod Shwmae Sumae! ac wrth i Ddiwrnod Shwmae Sumae! agosau mae nifer o wynebau cyfarwydd wedi dangos cefnogaeth i’r achos.

Dywedodd Ben Davies, amddiffynnwr Abertawe a Chymru ei fod yn falch o gefnogi’r ymgyrch:

“Cymraeg yw iaith fy nghyndeidiau ac mae’n gyfrifoldeb arna i gario ymlaen â’r traddodiad. Mae’n bwysig fy mod i’n siarad Cymraeg gyda’r teulu ac yn dysgu pobl eraill am y Gymraeg. Hefyd mae’n deimlad braf bod nifer o chwaraewyr eraill erbyn hyn yng ngharfan Cymru sy’n siarad Cymraeg.”

Ar ddydd Mawrth, Hydref 15ed cynhelir nifer o weithgareddau ar draws y wlad i ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae! Bwriad yr ymgyrch yw: • gwneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus, • dangos bod yr iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu medrusedd • a sicrhau defnydd o’r Gymraeg drwy’r flwyddyn.

Yn sir Benfro mae’r Urdd, CFFI, Mentr Iaith Sir Benfro, Tŵf, Mudiad Meithrin; Coleg Penfro, yr Adran Addysg, Banc Barclays, Merched y Wawr, Cymraeg i Oedolion a ‘r Parc Cenedlaethol wedi uno i ddathlu’r diwrnod drwy gynnal digwyddiadau fflachfobio mewn pedair canolfan ar draws y Sir.

Dywedodd Llinos Penfold, sy’n cydlynnu’r digwyddiadau ar y cyd gyda Catrin Phillips: “Mae’n gyfle gwych i farchnata gwaith y mudiadau o fewn y sir, annog defnydd o’r Gymraeg ymhlith Cymry Cymraeg a dysgwyr a gwneud rhywbeth hwyliog a gwahanol er mwyn codi proffil yr iaith.”

Ychwanegodd Catrin Phillips, sydd yn gweithio gyda phlant ail iaith de sir Benfro: “Bydd y profiad o ymarfer eu Cymraeg gyda phlant ac oedolion eraill a gweld bod y Gymraeg yn iaith fyw a siaredir yn helaeth o fewn ein sir yn brofiad gwerthfawr i’r disgyblion ail iaith”.

Bydd Cymraeg i Oedolion Gwent yn trefnu stondin yn Amgueddfa y Pwll Mawr, Blaenafon, tra bod nifer o ysgolion, megis Ysgol Archesgob Mcgrath Penybont ac Ysgol Uwchradd Maesteg yn manteisio ar y diwrnod i hybu’r Gymraeg o fewn yr ysgol a chael ychydig o hwyl.

Ac mae Diwrnod Shwmae Sumae! yn gyfle i gael bargen neu ennill gwobr. Ym Mhenybont ar Ogwr bydd y 50ed person sy’n cyfarch perchennog Siop yr Hen Bont â’r geiriau “Shwmae” yn derbyn gwobr arbennig.

Bydd cwsmeriaid bwytai campws Prifysgol Aberystwyth yn gallu manteisio ar gostyngiad o 10% os archebir diod yn y Gymraeg. Peidiwch a phoeni, bydd ‘na gymorth wrth law i rheiny sydd ddim yn rhugl!

“Mae cefnogaeth Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn wirioneddol wych a phawb am sicrhau bod Diwrnod Shwmae Su’mae! yn ddiwrnod i’w gofio.” dywedodd Jaci Taylor o Ganolfan Cymraeg i Oedolion y Brifysgol sydd wedi bod yn trefnu y digwyddiad.

Yng Nghrymych bydd Tŷ Bach Twt yn cynnig £5 o docyn anrheg i unrhyw gwsmer sy’n gwario dros £40 ar ddiwrnod Shwmae ac sy’n dechrau eu sgwrs yn Gymraeg. Cofiwch dyw hi ddim yn rhy gynnar i ddechrau siopa Nadolig!

Dywedodd Mari Lovgreen, un o Bencampwyr Shwmae Sumae! a chyflwynydd Argyfwng 999 ar Stwnsh: “Mae’n grêt meddwl fod na gymaint o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer diwrnod Shwmai Sumae!- a hynny dros Gymru. Mae mor bwysig bod Cymraeg yn cael ei glywed a’i ddathlu ymhob rhan o Gymru.

“Mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brin – mae’n bwysig ein bod ni’n annog dysgwyr a’u cynnwys mewn gweithgareddau Cymraeg. Mae’r iaith yn fyw, ac mae’r iaith i bawb! Defnyddiwch hi!”

Pethau Bychain

Gwneud y Pethau Bychain

deddfcyngorauAr ddiwrnod shw mae eleni byddwn i a Grŵp Deddf (Swyddogion Iaith De-Ddwyrain Cymru) yn ddiolchgar iawn os gallech chi ein helpu ni drwy gwblhau’r holiadur byr (iawn!) isod a rhoi i ni eich syniad(au) chi am sut y gallwn ni gynyddu defnydd o’r iaith a chreu ymdeimlad cenedlaethol cryfach.

www.gwnewchypethaubychain.org

Rydym yn chwilio am syniadau gall pob un ohonom eu rhoi ar waith yn rhwydd, yn hytrach na syniadau strategol, gyda’r bwriad o’u cyhoeddi mewn llyfr o’r enw ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ ar Ddydd Gŵyl Dewi 2014.

Yn y llyfr bydd syniadau pobl Cymru o’r pethau bychain (ond pellgyrhaeddol gobeithio!) y gall pob un ohonom wneud er mwyn Cymreigio Cymru drwy gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o’r iaith, gyda’r rheiny wedi eu trefnu dan bedwar pennawd ar sail y prif feysydd trosglwyddo iaith sef y gymuned, y gweithle, addysg a’r teulu.

Shwmae Su’mae 2013

Hydref 15, 2013 fydd y tro cyntaf inni ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae? gan ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg. Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae? yn gyfle inni atgyfnerthu a dathlu’r Gymraeg a’r ffyrdd y byddwn ni’n cyfarch ein gilydd yn Gymraeg yn ein cymunedau. Bydd hefyd yn gyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi yn dysgu Cymraeg ledled Cymru.  Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb a gallwn ni i gyd ddefnyddio’r Gymraeg ymhob man! Yn y siop, y ganolfan hamdden, y gwaith, wrth geisio gwasanaeth Cymraeg yn ein cymuned, gyda ffrindiau.

Am ddathlu’r diwrnod? Rho gynnig arni! Have a go! Cyfle i’ch mudiad, cymuned, cymdeithas nodi’r diwrnod, a chael ychydig o hwyl wrth ddathlu’r achlysur. Mae’r dathlu yn eich dwylo chi ond dyma rhai awgrymiadau:

  • Yr Awr Fawr – beth am annog dysgwyr yn y gweithle, eich cymuned neu’ch ysgol a chynnal awr o sgwrsio yn y Gymraeg amser cinio neu dros baned mewn caffi lleol?
  • Bore coffi a chacennan, neu te a theisen
  • Creu gwaith celf drwy nifer o gyfryngau, baneri, bathodynnau, addurno hen grysau-T, murlun/graffiti – addurnwch hen wal yn yr ysgol, cylch meithrin, aelwyd neu canolfan.
  • Fflachmobio – beth am greu fideo?

Am wybodaeth neu syniadau dilynwch ni ar:

t@shwmaesumae YouTube

tGrŵp tDigwyddiad

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial