ShwmaeSumae2017

ShwmaeSumae2017

 

15.10.17

Gerddi Fotaneg Cenedlaethol Cymru

Mynediad hanner pris i ddysgwyr ar Diwrnod Shwmae Su’mae

 

 

 

 

Cyhoeddi pencampwr #ShwmaeSumae

o ben draw arall y byd (wel, Llandwrog erbyn hyn)!

Gan fod Diwrnod Shwmae Sumae yn pum mlwydd oed eleni, bydd pum pencampwr yn rhan o ymgyrch 2017 yn gweithio hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Y syniad yw annog a helpu dinasyddion Cymru (boed yn rhugl, dysgwyr neu ond â chwpwl o eiriau) i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith.

Ein pumed pencampwr, a’r pencampwr olaf i gael ei gyhoeddi go gyfer Diwrnod Shwmae Sumae  2017 yw Grant Peisley, o Sydney yn Awstralia yn wreiddiol ond nawr yn byw â’i deulu ifanc yn Llandwrog ger Caernarfon, Gwynedd. Mae Grant yn gweithio gyda mentrau cymunedol ar draws gogledd Cymru a thu hwnt i helpu creu economïau teg, cynaliadwy a lleol. Fe ymwelodd ef â Chymru yn 1998 a chlywed am yr iaith frodorol am y tro cyntaf yn Amgueddfa Sain Ffagan. Roed yr iaith yn neud Cymru’n fwy diddorol ac unigryw i ymwelydd o ben draw arall y byd. Ond fe gafodd Grant ei sbarduno i feddwl yn ddwysach am sut mae emosiynau ac iaith wedi cael ei gydblethu, pan gwrddodd â’i bartner flwyddyn yn ddiweddarach yn Brisbane. Symudon nhw i fyw nes ymlaen i Gymru, lle y magent dau o fechgyn (Nedw a Caio). Meddai Grant;

“Pan symudon ni i Gymru yn Rhagfyr 2001, dechreuais i ddysgu Cymraeg ac erbyn genedigaeth ein mab cyntaf yn 2005 roeddwn i’n benderfynol taw Cymraeg fyddai iaith y tŷ, iaith gyntaf y plant; nid yn unig eu mamiaith ond eu ‘tadiaith’ hefyd! Roeddwn am neud yn siŵr bod fy mhlant wedi eu gwreiddio yn eu cymuned, eu hanes a’u diwylliant. Dwi am iddyn nhw gael gwreiddiau dwfn a cryf a synnwyr solid o berthyn. Yr iaith sydd yn rhoi hynny iddynt. Mi wnes i gwblhau cwrs dwys ‘SuperWlpan’ a ‘SuperPellach’ yn ysgol addysg gydol oes ym Mhrifysgol Bangor. Dwi wedi neud cwpwl o wythnosau o gyrsiau dwys, wythnos yn Nant Gwrtheyrn a dosbarthiadau nos. Rhoddodd hynny sail i fy Nghymraeg, ond dysgais i siarad go iawn gyda ffrindiau yn nhafarndai Caernarfon!”

“Nid oedd hi’n deg fod pump neu mwy o siaradwyr Cymraeg yn eistedd gyda’i gilydd yn siarad Saesneg achos bod un boi o Awstralia yn eistedd gyda nhw. Felly nes i fynnu eu bod yn siarad Cymraeg o’n nghwmpas ac mi’r oedd fyny i mi i ofyn petawn i ddim yn dallt. Roedd cwpwl o beintiau yn helpu fy hyder, a cyn pen dim roeddwn yn gallu sgwrsio yn naturiol. Ni fydd pobol yn dysgu Cymraeg tra bo siaradwyr Cymraeg yn rhy garedig  iddyn nhw a newid i Saesneg trwy’r amser.”

Wrth esbonio pwysigrwydd yr ymgyrch Shwmae Sumae, meddai Grant;

“Fel siaradwyr Cymraeg, neu bobol sydd â diddordeb yn hanes a diwylliant Cymru, neu fel dysgwyr yr iaith dylwn ni fod yn defnyddio ac ymarfer a chlywed cymaint o’r iaith a phosib trwy ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg gyda Shwmae neu Su’mae syml. Does ddim ots os na allwch chi ddweud mwy na hynny. Mae ond defnyddio’r un gair yna yn dangos eich bod yn parchu’r iaith ac yn deall pŵer iaith yn adeiladu hunan barch, tegwch a balchder. Mae’n hawdd i’w weud, yn swnio’n grêt ag acenion gwahanol ac yn gallu fod yn ‘icebreaker’ gwych. Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn rhoi’r cyfle i chi i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg. Mae’n rhoi’r profiad unigryw a diddorol mae twristiaid yn teithio amdani ac felly’n gallu rhoi hwb i’n heconomi. Rhowch gynnig arni! A chofiwch fod ‘Su’mae’ nid am un diwrnod yn unig!!”

Diolch i Grant am ddysgu’r iaith ac am gefnogi’r ymgyrch eleni! Bydd Grant yn rhannu’r iaith oddi fewn i’r cymunedau a grwpiau ynni cymunedol y mae’n gweithio gyda, mewn siopau, tafarndai a thimau chwaraeon sydd yn rhan o’i gymuned a’i waith. Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth ynglŷn â threfnu gweithgareddau go gyfer Diwrnod Shwmae Sumae, a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.

The Welsh language belongs to us all.

‘Parch’ i’n pedwerydd pencampwr!

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae wedi bod yn galw ar bencampwyr hyd a lled Cymru i helpu hyrwyddo’r diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Mae’r pencampwyr yma yn hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.

Ein pedwerydd pencampwr eleni yw’r actores, cantores a ysgrifenwraig Carys Eleri o Tymbl Uchaf (nid Crosshands!), Sir Gâr. Mae Carys nawr yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, ac yng nghanol ffilmio’r drydedd gyfres o’r ddrama-gomedi boblogaidd ‘Parch’, ac wedi derbyn enwebiad am wobr BAFTA Cymru am chwarae’r brif-rhan ynddi.  Ar wahân i’r rôl hon a nifer eraill o gynyrchiadau theatr, radio a ffilm, mae Carys hefyd yn ysgrifennu’n greadigol ac yn un o fintai ‘Charlotte Church’s Late Night Pop Dungeon’. Meddai Carys;

“Cymraeg yw iaith fy nheulu, ac iaith fy enaid llonydd. Wy di bod yn cadw dyddiadur helaeth yn ddiweddar ac mae mor ddiddorol mai Cymraeg wy’n defnyddio pan wy’n hapus fy myd, ac os ma’ rywbeth yn fy nghorddi – a’i syth i’r Saesneg! Ma’r ddwy iaith yn brwydro dros fy emosiynau, ond y Gymraeg sydd wastad yn cael ei ddefnyddio pob amser dwi’n hapus”

Wrth esbonio pwysigrwydd dathliadau Diwrnod Shwmae Sumae, meddai Carys;

“Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn bwysig i fi achos mae e’n caniatáu hyder ynom i fedru ceisio cael sgwrs yn Gymraeg ta le’r y’ ni. A hyd yn oed os nad ydy’r person arall yn medru ei siarad, mae’n dangos i’r person yna fod yna fywyd yn yr iaith, fod ‘na bobol o bob oedran yn hapus i’w siarad. Mae e hefyd yn meddwl bod mwy o sgôp da fi i glebran mewn dwy iaith mewn diwrnod!”

“Ar Ddiwrnod Shwmae, fyddai’n clebran, trydar a cheisio cael fy ffrindiau di-gymraeg i siarad Cymraeg. Fy hoff beth i wneud da’n ffrindiau di-gymraeg yw i ddysgu dywediadau Cymraeg iddyn nhw. Ma’ ‘cnoc y dorth’ yn ffefryn mawr i sawl ffrind a ma’ ‘mae’n ddigon mawr i alw chi arno fe’ yn un da i esbonio’r gwahaniaeth rhwng ‘ti’ a ‘chi’.”

Diolch a pharch i Carys am ymuno gyda ni fel un o’n pencampwyr hyfryd am y dydd cenedlaethol o ddathlu eleni! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth pellach am drefniadau a digwyddiadau’r dydd a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.

The Welsh language belongs to us all.

Ac ein 3ydd Pencampwr eleni yw… 

Mae pencampwyr hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo Diwrnod Shwmae Sumae eleni (a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn), gan hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith.

Y trydydd pencampwr i’w gyhoeddi yn 2017 yw Dr Ben Sellman, yn enedigol o Birmingham a nawr yn byw yng Nghaerfyrddin.  Meddyg teulu yw Ben yn Meddygfa Llynyfran Yn Llandysul, Ceredigion. Mi wnaeth Ben a’i deulu ifanc symud i Gaerfyrddin  pum mlynedd yn ôl heb air o Gymraeg. Erbyn hyn mae Ben yn gallu cynnig gwasanaeth Gymraeg i’w gleifion yn ardal Llandysul. Dysgodd Cymraeg er mwyn cynnig gwasanaeth gwell i gleifion (a gan mai Cymraeg yw iaith naturiol y feddygfa) a hefyd am ei fod am anfon ei blant i ysgol Gymraeg. Cyrhaeddodd safon Ganolradd (lefel TGAU) ar ôl 3 mlynedd cyn cafodd ei gwrs lleol am lefel Pellach ei ganslo oherwydd diffyg niferoedd. Ond, fel esbonia Ben,

“Yn lwcus, erbyn hynny, ro’n ni wedi cwrdd â ffrindiau newydd a oedd yn siarad Cymraeg, felly roedd llawer o gyfleoedd i mi ymarfer! Dw i’n dal i ddysgu, ond nawr dw i’n ddigon hyderus i ‘neud ymgynghoriadau meddygol yn y Gymraeg, a dw i’n ei ‘neud bob dydd. Dw i’n teimlo mod i’n gallu cynnig gwasanaeth gwell i gleifion sy’n hapusach ac yn fwy cyfforddus yn siarad yn eu mamiaith Cymraeg, pan fyddan nhw’n trafod eu problemau meddygol. Mae’r Gymraeg wedi rhoi cyfleoedd eraill i mi hefyd, e.e. dw i wedi ymuno côr Cymraeg yng Nghaerfyrddin (Côr Seingar!), sy’n llawer o hwyl, ac yn gymdeithasol iawn.”

Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae Sumae a’i syniadau yn ei rôl fel un o bencampwyr 2017, meddai Ben,

“Hoffwn i ddefnyddio’r cyfle i annog pobl sy’n meddwl am ddysgu Cymraeg. Dyw’r iaith ddim mor anodd ag y mae pobl yn ei ddweud! Mae llawer o gyfleoedd ac adnoddau ar gael i helpu dysgwyr – gwersi, llyfrau, grwpiau ymarfer, rhaglenni teledu, a phobl yn hapus iawn i helpu. Mae’n iawn i ddefnyddio geiriau Saesneg mewn brawddegau os oes angen, a pheidiwch â phoeni am y gramadeg! Ac, os oes plant ‘da chi, anfonwch nhw i ysgol Gymraeg – byddan nhw’n cael addysg ardderchog, byddan nhw’n ddwyieithog heb ymdrech, a bydd yn haws i chi i ddysgu Cymraeg ar yr un pryd.”

Ychwanega Ben cyngor pellach i siaradwyr rhugl y Gymraeg hefyd, ‘tips’ gwerthfawr ar sut i helpu ein dygwyr yng Nghymru,

“Mae llawer of bobl fel fi sy’ moyn dysgu ac yn gwneud ymdrech i ddysgu Cymraeg – ac mae angen ychydig o help ac anogaeth arnon ni! Fel dysgwr, mae’n gallu fod yn anodd i fynd i mewn i siop, neu fanc, neu swyddfa bost, a dechrau sgwrs yn y Gymraeg, rhag ofn na ddeallwn ni’r ateb ac wedyn ymddangos yn dwp! Y ffordd gorau i siaradwyr rhugl i helpu dysgwyr yw sticio i’r Gymraeg. Os bydd dysgwr yn dechrau sgwrs yn y Gymraeg, plîs trïwch a pheidio â throi syth i’r Saesneg os nad yw hi neu fe’n deall popeth ar unwaith!”

Diolch am y cyngor Ben a chroeso enfawr i ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae eleni! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.

The Welsh language belongs to us all.

Cyhoeddi pencampwraig Shwmae Sumae 2017!

Dyma’r ail bencampwr a gyhoeddir yr wythnos hon yn rhan o ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae 2017. Mae pencampwyr a phencampwragedd hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn, sef i hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.

Yr ail berson i gael ei chyhoeddi fel pencampwr 2017 yw Bethan Williams, yn enedigol o Lerpŵl a nawr yn byw yn yr Wyddgrug! Mae Bethan wedi sefydlu busnes ei hun ers Gorffennaf 2016 ac yn cynnig gweithgareddau Amser Babi Cymraeg i deuluoedd efo babanod a phlant ifanc ar draws ardal y gogledd ddwyrain. Mae’r busnes yn cynnig gwasanaethau fel tylino babi, ioga babi, splash a chân a stori a chân.  Mae Bethan a’i phartner Gaj yn rhieni i dri o blant sydd yn frwd dros y Gymraeg, ond fel llawer o blant yn eu harddegau maen nhw’n gallu bod yn swil iawn o’u Cymreictod tu allan i’r cartref. Meddai Bethan;

“Roedd agweddau digon negyddol tuag at y Gymraeg pan oeddwn i’n tyfu i fyny mor agos at y ffin fel plentyn ac rwy’n cofio mynychu sawl rali Cymdeithas yr Iaith oherwydd dylanwad mam. Mi ges i’r fraint o weithio fel swyddog maes i ‘TWF’ am 4 mlynedd a dysgais lawer am ein defnydd ni o’r Gymraeg gan bobl wybodus iawn yn y maes polisi a chynllunio iaith. Mae’r cyfnod yna wedi rhoi hyder i mi rannu’r cariad sydd gen i at y Gymraeg gyda phobl eraill! Dwi’n croesawu rhieni Cymraeg, dysgwyr a’r di-gymraeg i fy sesiynau ABC sy’n cael eu cynnal yn Sir Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych – dwi’n credu bod pontio, deall a chefnogi ein gilydd yn allweddol wrth ystyried ein defnydd ni o’r Gymraeg. Erbyn hyn dwi wrth fy modd yn dechrau sgwrs yn Gymraeg lle bynnag fyddai’n mynd a dwi wedi darganfod llawer o “Gymry-cudd” ar draws y Gogledd Ddwyrain!”

“Mae hi wedi cymryd 43 mlynedd i mi fod yn ddigon hyderus i ddechrau sgwrsio yn Gymraeg gyda dieithriaid a dwi’n trio herio’r rhieni sy’n mynychu fy sesiynau i ddefnyddio’r Gymraeg mwy yn eu cymunedau. Mae diwrnod Shwmae Sumae yn ein hatgoffa bod posib cyfarch pawb yn Gymraeg – mae hi mor bwysig i rannu’r iaith ar bob cyfle posib!”

Diolch o galon i Bethan am gefnogi’r ymgyrch eleni! Bydd Bethan yn helpu yn ystod fore goffi Gŵyl Daniel Owen yn yr Wyddgrug ar Sadwrn y 14eg o Hydref. Ewch draw am sgwrs a phaned! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.

The Welsh language belongs to us all.

Cyhoeddi pencampwyr Shwmae Sumae 2017!

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae wedi bod yn galw ar bencampwyr hyd a lled Cymru i helpu hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i gynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Mae’r pencampwyr yma yn hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.

Shwmae Su’mae Siôn!

Rydym yn hynod o falch o gyhoeddi taw ein pencampwr cyntaf am 2017 yw Siôn Tomos Owen o Dreorci yn y Rhondda. Mae Siôn yn gyflwynydd ar rhaglen deledu S4C, ‘Pobol y Rhondda’, yn gartwnydd, arlunydd ac yn awdur. Cafodd ei lyfr ‘Cawl’ ei gyhoeddi yn 2016 gan gyhoeddwyr Parthian – llyfr sydd yn gymysg o farddoniaeth, darluniau, comics, straeon byr a myfyrdodau ar fywyd cyfoes yn y Rhondda. Mae’r llyfr hefyd yn pontio’r Gymraeg a’r Saesneg mewn modd naturiol a cynhwysol. Er y cafodd Siôn ei fagu mewn aelwyd Cymraeg (a’i dad wedi dysgu’r iaith), a mynychu ysgolion Cymraeg yr ardal, mae’n ymwybodol o’r angen i normaleiddio’r iaith yn y cymoedd.

 

Meddai Siôn: “Y prif reswm fod Diwrnod Shwmae Sumae yn bwysig i mi yw i normaleiddio’r Gymraeg trwy ei hybu, nid trwy orfodaeth.  Fel rhywun sy’n byw yng nghymoedd y De, rwy’n cofio pan yn ddisgybl roedd llawer o ddisgyblion yn gwrthryfela yn erbyn yr iaith oherwydd y teimlad o bwyslais ar orfodaeth i’w ddefnyddio yn yr ysgol. Fe wnaeth hyn clymu fewn i deimlad rhai yn erbyn addysg yn gyffredinol ac a’i clymwyd wedyn i’r iaith.  Dwi wir yn credu fod angen hybu’r iaith fel nad yw’n cael ei weld fel iaith addysg yn unig i’r plant a pobol ifanc sydd yn ei ddysgu yn yr ysgolion. Dwi’n credu fod rhaid dangos i’r genhedlaeth ifanc ei fod yn iaith i’w ddefnyddio’n ddyddiol mewn bywyd bob dydd.”

“Dwi am hybu Diwrnod Shwmae Sumae 2017 yn eang ar draws fy aml blatfform cyfryngau cymdeithasol. Dwi hefyd am geisio neud darnau o gelf, barddoniaeth a chartwnau i’w hysbysebu.”

Diolch i Siôn am gefnogi’r ymgyrch eleni! Gobeithio bydd llawer o weithgarwch lawr yn ardal Treorci ac ar draws cymoedd y de-ddwyrain. Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth! Gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!

 

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.

The Welsh language belongs to us all.

 

Penblwydd Hapus Diwrnod Shwmae Sumae!

Ar y 15fed o Hydref eleni, bydd Diwrnod Shwmae Sumae yn dathlu ei phen-blwydd yn bump! Mae Diwrnod Shwmae Sumae hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi! Nôd y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg.

Sut fyddwch chi’n dathlu?

Sut fyddwch chi’n dathlu’r iaith Gymraeg eleni? Beth am drefnu bore goffi gyda’ch ffrindiau neu yn eich cymuned; cwis tafarn; dro gydag athrawes Cymraeg (all rhannu holl enwau anhygoel Cymraeg am ein fflora?); cynlluniwch slogan Cymraeg am crys-t, trefnu noson ffilm Cymraeg, gig Cymraeg neu twmpath? Teisen pen-blwydd am y diwrnod?! Byddwch yn greadigol a rho gynnig arni!

15fed o Hydref, 2017

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial