Hwyl Shwmae 2013

Hwyl Shwmae 2013

Dyma sut dathlwyd Diwrnod Shwmae Sumae gan rai yn 2013

Trefnodd Canolfan Dysgu Cymraeg y Canolbarth disgownt 10% am goffi ar gampws Prifysgol Aberystwyth a chodi arian at yr Ambiwlans Awyr, ynghyd â sesiynau Blasu Cymraeg ar gyfer staff y bwytai a Fflachmob!

Cymraeg i Oedolion Gwent: Diwrnod agored yn y Pwll Mawr, Blaenafon

Trefnodd Cymraeg I Oedolion y Gorllewin sesiynau blasu amser cinio gyda Academi Hywel Dda; hyrwyddodd Cymraeg I Oedolion Sir Gâr gwersi yn Llanelli a Chaerfyrddin a lawnsio 2 app newydd!

Dosbarthodd Cymraeg I Oedolion De Cymru 2000 o fathodynnau Shwmae ar draws safleoedd Prifysgol De Cymru.

Cafwyd boreuon coffi a chlonc ym Mhontyberem, Caerdydd, Abertawe, Coleg Dewi Sant, Y Mochyn Du, Canolfan Teulu Trelai, Aberystwyth, Caerffili, Penygroes Gwynedd, Rhydaman a Gwaelod y Garth

Creuodd Golegau Penfro, Merthyr a Cheredigion fideos shwmae, gwaith celf, mur Cymreictod, sesiynau barddoniaeth a bĭt bocsio; boreuau coffi a chodi arian at elusen

Bu’r Mentrau Iaith yn trefnu: stondinau gwybodaeth yng nghanol trefi, sesiwn ddarllen, paentio gwynebau, dosbarthu bathodynau, bysgwyr, boreuon coffi, fflachmob a chyfieithu rhad.

Yn Theatr Felinfach cafwyd nid yn unig noson o hwyl ond diwrnod ychwanegol o hwyl gyda Ysgol Felinfach, CFFI, Theatr Ieuenctid a CYW.

Drefnodd Prifysgol Bangor disgownt o 10% ar baned yn ei holl ardaloedd arlwyo i bawb defnyddiodd eu Cymraeg.

Cododd CAD (Computer Aided Design) Parc Menai Bangor, arian at elusen drwy godi dirwy ar ddefnyddio Saesneg!

Dathlodd ysgolion Maesydderwen, Ystradgynlais, Archesgob Mcgrath, Brynmawr, Mynydd Cynffig, QE High Caerfyrddin, Bryngwyn Llanelli, Aberconwy, Maesteg, Dyffryn Taf Hendygwyn, Ysgol Gynradd Iolo Morgannwg gyda: Cwis; Clwb Clebran; pice’r y mân a choffi; wal graffiti; posteri; cerddoriaeth Cymraeg amser egwyl; gwerthu cacennau; gwasanaeth Cymraeg; gweithdy cerdd, drama a barddoni; gwisgo dillad coch I godi arian at elusen.

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial