Newyddion

Newyddion

  • Cyhoeddi Pumed Pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019 04/10/2019
    Dan McCallum, yn gweithio o fewn y sector Ynni Cymunedol, Dysgwr Cymraeg, Tad ac yn Bencampwr Shwmae Sumae!

    Mi fydd Diwrnod Shwmae Sumae yn dathlu ei seithfed flwyddyn fel ymgyrch genedlaethol eleni, ac yn rhan o’r dathliadau mae yna gyfres o bencampwr yn rhan o ymgyrch 2019 yn gweithio hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Y syniad yw annog a helpu dinasyddion Cymru (boed yn rhugl, dysgwyr neu ond â chwpwl o eiriau) i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith.

    Ein pumed pencampwr, a’r pencampwr olaf i gael ei gyhoeddi go gyfer Diwrnod Shwmae Sumae 2019 yw Dan McCallum o Tairgwaith ger Rhydaman, sydd yn dod yn wreiddiol o Aberplym (Plymouth). Gweithiodd gynt fel Rheolwr Oxfam yn Kurdistan, Gogledd Irac; fel Rheolwr Rhaglen Grŵp Hawliau Lleiafrifoedd Affrica a’r Dwyrain Canol; ac fel athro gyda ffoaduriaid Eritreaidd yn Sudan. Ers symud i Gymru ugain mlynedd yn ôl, a dechrau ar ei daith o ddysgu Cymraeg, mae Dan erbyn hyn yn rheolwr Awel Aman Tawe, elusen sy’n ymwneud â phrosiectau ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni ac amgylcheddol yng Nghymru. Mae’n gyfarwyddwr i Grŵp Cydweithredol Awel sydd wedi datblygu fferm wynt cymunedol ar Fynydd y Gwrhyd, i’r gogledd o Abertawe. Mae hefyd yn gyfarwyddwr ar fwrdd Grŵp Cydweithredol Egni Solar, sydd wedi bod yn gosod paneli solar ar adeiladau cymunedol ac ysgolion ers 2015, ac sydd yn gweithio nawr ar brosiect i osod hyd at 5MW o solar to ar draws Cymru. Mae ei wraig Emily, bardd ac artist, hefyd wedi dysgu Cymraeg, a buodd ei merched yn mynychu’r ysgol Gymraeg lleol. Wrth esbonio pwysigrwydd y Gymraeg iddo, a’i brofiad o ddysgu, meddai Dan,

    “Mae’r Gymraeg yn bwysig i mi, oherwydd mae fy ngwaith i yn digwydd o fewn y gymuned leol a llu o gymunedau eraill yng Nghymru, a’r Gymraeg yw iaith naturiol llawer o’r bobol rwy’n gweithio gyda. Fel profais gyda fy ngwaith rhyngwladol cyn dod i fyw yng Nghymru, mae gallu deall iaith, bod yn barchus ohoni ac o’i siaradwyr ac o’i hanes a’i gysylltiadau diwylliannol, yn hanfodol, os ydych chi am gydweithio gyda chymunedau. Ers dysgu Cymraeg, dwi wedi neud sawl cyflwyniad yn y Gymraeg, a chyfathrebu yn y Gymraeg yn naturiol. Mae hyn yn bwysig i mi, ac rwy’n gallu teimlo’n falch o fy hun, fy mod i nawr yn gallu cyfri fy hun yn siaradwr Cymraeg! Wy’n mwnau hefyd siarad â fy ewythr a fy nheulu o Fetws, Rhydaman ble mae fy mam yn dod o yn wreiddiol. Cymraeg oedd ei iaith cynta’ hi a’i hochr hi o’r teulu – felly roedd fy ewythr yn hapus iawn fy mod i wedi dysgu Cymraeg, a reit o’r dechrau, newidiodd e i siarad dim ond Cymraeg da fi. Mae llawer o bobl yng Nghwmllynfell ble wy’n gweithio yn siaradwyr Cymraeg, fel Mark y Cigydd sy’n helpu fi i siarad yn y Gymraeg!”

    Ar Ddiwrnod Shwmae Sumae eleni, mi fydd Dan yn tywys grŵp o ddisgyblion o Gasnewydd o gwmpas y tyrbin gwynt cymunedol ar Fynydd y Gwrhyd, ac yn gobeithio bydd bosib anfon neges arbennig o brosiect celf diweddar Egni Coop, sydd yn codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd drwy anfon artist lleol i’r lleuad! Disgwyliwn ymlaen i gael Shwmae a Sumae o’r gofod eleni!

    Diolch o galon i Dan am gefnogi’r ymgyrch eleni ac edrychwch ar wefan egni.coop er mwyn cefnogi’r fenter gymunedol gyffrous hon sydd yn gweithio tuag at di-garboneiddio Cymru. Cysylltwch â swyddfa@dathlu.cymru am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd!

     

    Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb. The Welsh language belongs to us all.

    Continue reading →
  • Cyhoeddi pedwerydd pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019 03/10/2019
    Valerie Humphreys, Dysgwraig o’r Iwerddon, Sonograffydd, Mam i dri, a Pencampwr Diwrnod Shwmae 2019!

    Dros y chwe blynedd diwethaf, mae ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae wedi bod yn galw ar bencampwyr hyd a lled Cymru i helpu hyrwyddo’r diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Mae’r pencampwyr yma yn hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.

    Ein pedwaredd bencampwraig i’w chyhoeddi eleni yw Valerie Humphreys, yn enedigol o Iwerddon mae erbyn hyn yn byw a gweithio yng Nghaerfyrddin. Mae’n gweithio rhan amser yn Ysbyty Glangwili fel seingraffydd (yn neud sganiau uwchsain), yn fam i dri o blant ac wedi bod yn dechrau ar y daith o ddysgu Cymraeg ers i’w phlant ddechrau yn yr ysgol Gymraeg lleol. Credai bod ysgolion yn gallu chwarae rôl bwysig iawn i gyflwyno’r iaith i deuluoedd heb y Gymraeg, gyda’r capasati o ddangos faint o hwyl sydd bosib cael gyda’r iaith – dyma beth ddechreuodd ei theulu ar y daith. Meddai Val;

    “Dechreuais i ddysgu Cymraeg pan benderfynon ni i hala ein plant i Ysgol Cymraeg. Mae fy ngŵr yn dod o Iwerddon hefyd, felly doedd dim Cymraeg gyda ni yn y tŷ cyn hynny! Ond ro’n ni eisiau cefnogi ein plant gyda’u haddysg – darllen gyda nhw, helpu gyda gwaith cartre’ a hefyd i fod â’r gallu i gymryd rhan yn eu bywyd ysgol yn gyffredinol. Ro’n i’n dysgu Gwyddeleg a Ffrangeg pan o’n i’n yn yr ysgol, felly o’n i’n gobeithio byddwn i’n gallu dysgu Cymraeg yn ddigon hawdd hefyd! Roedd e’n anodd ar y dechrau, ond roedd y plant yn help mawr gyda fy nysgu, achos roeddwn i’n gallu ymarfer gyda nhw heb boeni! Fe wnaethon nhw fy nghywiro i gydag ynganiad a geirfa a phopeth! Erbyn hyn, dwi’n mynd i wersi Cymraeg yn Yr Atom yng Nghaerfyrddin pob wythnos, a dwi’n joio mas draw dysgu gyda fy nhiwtor a chyd-ddisgyblion, a byddaf yn dechrau Cwrs Uwch eleni! Mae llawer o ffrindiau gyda fi sy’n siarad Cymraeg, ac mae’n hyfryd i gael bywyd cymdeithasol gyda nhw heb boeni am ddeall pethau. A be sy’n grêt yw does ddim rhaid iddyn nhw newid eu hiaith er fy mwyn i! Mae’r iaith yn fy helpu gyda gwaith hefyd. Dwi’n gweithio gyda phobl ifanc, ac weithiau dydyn nhw ddim yn siarad Saesneg o gwbl. Ond nawr fy mod i’n gallu siarad Cymraeg dwi’n gallu helpu nhw i deimlo yn fwy cyfforddus achos maen nhw’n gallu cyfathrebu yn eu hiaith nhw.”

    Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae Sumae a’i gyswllt â dysgu Cymraeg, meddai Val;

    “Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn helpu lot gyda hyder. Mae dechrau dim ond wrth ddweud Shwmae wrth bobl – heb bwysau – yn meddwl does dim byd gyda chi i golli! Mae e’n hawdd i’w wneud. Ffordd mewn yw e, i ymuno’r gymuned Cymraeg, a phan dych chi’n dechrau dysgu’r iaith dych chi’n sylweddoli pa mor groesawgar yw ei phobl a faint dych chi’n gallu ennill! Ydy, mae e’n cymryd ymdrech i ddysgu iaith. Llawer o amser, llawer o boeni, llawer o gamgymeriadau. Y peth caletach yw ffeindio’r hyder i siarad â phobl – a phoeni am sut dych chi’n swnio neu os dych chi’n neud camgymeriadau. Er y bydda i yn Lloegr ar Ddiwrnod Shwmae Sumae eleni, dwi’n gobeithio bydda i’n ddechrau pob sgwrs gyda Shwmae, a drwy hynny, dechrau sgwrs amdano’r iaith gyda phobl heb wybodaeth o Gymraeg. Pwy sy’n gwybod, efallai wnaiff rhywun arall ddechrau dysgu?”

    Diolch o galon i Val am gefnogi’r ymgyrch eleni ac i’r holl ddysgwyr sydd yn gweithio o fewn y GIC! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.cymru am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd!

    Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.           The Welsh language belongs to us all.

    Continue reading →
  • A trydydd Pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019 yw… 02/10/2019
    Nic Dafis, tiwtor Cymraeg, blogiwr ac ymgyrchydd â’r Gwrthryfel Difodiant

     

    Mae pencampwyr hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo Diwrnod Shwmae Sumae eleni (a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn), gan hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith.

    Rydym yn hynod o falch i gael cyhoeddi taw ein trydydd pencampwr yw Nic Dafis – yn wreiddiol o’r Waun ger Wrecsam, ac sydd erbyn hyn yn byw yn Pontgarreg ger Llandysul. Mae Nic yn diwtor iaith gyda Dysgu Cymraeg i Oedolion trwy Prifysgol Aberystwyth, ac yn dysgu yn Aberteifi. Nid oedd Cymraeg ar aelwyd ei deulu yn Y Waun; y Cymry Cymraeg olaf oedd cenhedlaeth ei hen neiniau a theidiau. Nid tan iddo symud i fyw yng Nghaerdydd a chael swydd mewn siop lyfrau Cymraeg yn y ddinas benderfynodd Nic ddechrau meddwl o ddifri am ddysgu Cymraeg. Gyda chefnogaeth gref ei gyflogwr, mynychodd ddosbarthiadau “Wlpan” dan ofal Prifysgol Caerdydd, a dysgu’n gyflym: erbyn diwedd y tymor cyntaf roedd yn gallu ateb y ffôn,   ac   erbyn  diwedd   y   flwyddyn,   roedd   yn   gallu ymdopi â’r cwsmeriaid wyneb yn wyneb, yn lle llechu yng nghefn y siop yn dadbacio bocsys! Yn fuan ar ôl pasio’r   arholiad   “Canolradd”,   symudodd Nic i   fyw   ger Llangrannog, ac yn fuan ar ôl hynny, ffeindiodd ei hunan yn dysgu dosbarth nos lefel Mynediad fel tiwtor. Tua’r un   amser,   dechreuodd   gadw   blog   ar   morfablog.com (sef y blog cyntaf yn y Gymraeg), ac yn 2002, lansiodd y wefan drafod maes-e.com – roedd y cyfnod yna yn un prysur iawn: dyddiau cynnar “y We Gymraeg”. Ac mae’r gwaith ar-lein yn parhau wrth iddo ddarparu cylchlythyr ar-lein i   ddysgwyr   yn   ardal   Aberteifi,   sydd yn cynnwys y blog dysgu.com. Mae hefyd wedi bod yn sianeli mwy o’i egni mewn i gyfrannu tuag at ymgyrchoedd Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion/ XR) dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ceisio ‘Cymreigio’ y mudiad hinsawdd o du fewn, fel petai, a denu rhagor o Gymry Cymraeg at y mudiad. Fel yr esboniai:

    ​“Mae   gyda   fi   ddiddordeb   arbennig   mewn   pontio rhwng y ddau fyd o ddysgu Cymraeg a bod yn weithredol yn yr ymgyrch   i   daclo’r   Argyfwng   Hinsawdd. Mae   XR,   fel mudiad rhyngwladol, wedi bod yn hapus iawn i gefnogi siaradwyr Cymraeg tu mewn i’r mudiad, ond rydym yn lleiafrif   bach   ar   hyn   o   bryd,   gyda   llawer   llai   o bresenoldeb   yn   y   mudiad   nag   sydd   gyda   ni   ar   lawr gwlad. Mae canran fwy o Gymry mewn grwpiau XR yn yr ardaloedd traddodiadol “di-Gymraeg” nag sydd yn y “Fro Gymraeg”, ac mae awydd mawr ‘da fi i ddarbwyllo rhagor o “Rebels XR” i fynd ati i ddysgu’r iaith ac yr un pryd i ddarbwyllo rhagor o siaradwyr Cymraeg bod lle iddyn nhw yn yr ymgyrch hinsawdd.

    Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae Sumae, meddai Nic,

    “Rwy’n ei weld yn gyfle arbennig i hybu’r iaith Gymraeg yn   ein   cymunedau   lleol,   ac   i   ddathlu   ein   hiaith   a diwylliant.   Mae’n   bwysig   i   gael   y   neges   allan   at “siaradwyr ansicr” y Gymraeg – pobl sy falle ddim yn cael   cyfle   bob   dydd   i   ddefnyddio’r   iaith   –   bod   eu Cymraeg   nhw   yn   wych,   a   bod   rôl   iddyn   nhw   yn   yr ymdrech o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050. Fel rhywun sy wedi defnyddio llawn cymaint o Gymraeg ar-lein ag ydw i yn fy nghymuned leol “go iawn”, hoffwn i feddwl bod rôl gyda fi i drafod fy hanes yn y cyfryngau traddodiadol, ac i hybu’r Diwrnod trwy fy ffrydiau lu yn y cyfryngau cymdeithasol.”

    Diolch i Nic am gefnogi’r ymgyrch eleni! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.cymru am fwy o wybodaeth a chymorth, a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd!

    Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.           The Welsh language belongs to us all.

    Continue reading →
  • Cyhoeddi ail pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019! 01/10/2019
    Fiona Collins, Chwedleuwraig, Dysgwraig y Flwyddyn a Phencampwraig Diwrnod Shwmae Sumae 2019!

    Dyma gyhoeddi ail bencampwr ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae 2019. Mae pencampwyr hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn, sef i hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, a defnyddio ymadroddion syml, fel modd o normaleiddio’r iaith.

    Rydym yn hynod o falch o gyhoeddi taw ein hail bencampwr am 2019 yw’r Chwedlonwraig ac enillydd cystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol Dysgwr y Flwyddyn, Fiona Collins, yn wreiddiol o Swydd Hampshire yn Lloegr, ac erbyn hyn yn byw yng Ngharrog, Sir Ddinbych. Dechreuodd Fiona ddysgu Cymraeg yn Llundain, cyn parhau i ddysgu mwy pan benderfynodd symud i Gymru. Hiraeth a ddaeth â Fiona i Gymru. Roedd ei mam yn Gymraes o Rymni, nyrs a symudodd i ysbyty bach yn Hampshire ar ôl fod yn gweithio yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd gan ei thad dafarn gyferbyn â’r ysbyty bach hwnnw, a dyna sut wnaeth ei rhieni hi gwrdd! Hi yw’r cyntaf o’i theulu i ddysgu Cymraeg. Chwedleuwraig yw Fiona, oedd yn teimlo ei fod yn angenrheidiol iddi allu adrodd chwedlau Cymru yn yr iaith Gymraeg – “chwedlau’r wlad yn iaith y wlad” fel y dwedai. Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae Sumae, a’i rôl hi fel un o bencampwyr y diwrnod eleni, meddai Fiona:

    “Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn annog pobl i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, a does dim ffordd gorau i godi hyder na defnyddio pob smic o Gymraeg sydd gennoch chi. Dwi’n credu bod pawb sydd yn byw yng Nghymru yn gallu tipyn o Gymraeg. ‘Dan ni i gyd yn deall fod ‘Araf’ ar y ffordd yn golygu ‘lleihau’r cyflymder’, a bod ‘Maes Parcio’ yn rhywle i adael y car! Felly dwi wastad yn annog pobl sy ddim yn Gymry Cymraeg i beidio dweud ‘Dydw’i ddim yn siarad Cymraeg’, ond yn hytrach dweud, ‘Dwi’n siarad tipyn bach o Gymraeg’. Fel hyn, maen nhw’n cydnabod y Gymraeg SYDD ganddyn nhw, hyd yn oed os dim ond ‘Cymraeg arwyddion y ffordd’ yw hi.”

    Basau Fiona yn hoff o weld mwy o siopau bach a mawr yn annog eu staff i gyfarch pawb trwy gyfrwng y Gymraeg ar Ddiwrnod Shwmae Sumae eleni, er mwyn normaleiddio’r iaith a chreu mwy o fwrlwm. Hoffai hefyd weld ysgolion yn annog mwy o angerdd ymysg disgyblion sydd eisoes yn weithgar dros faterion hinsawdd i fod yn angerddol dros eu hiaith hefyd. Ar Ddiwrnod Shwmae Sumae eleni, mi fydd Fiona yn teithio i de Cymru i gefnogi gweithgarwch lleol yno i ddathlu a defnyddio’r Gymraeg;

    “Dwi newydd dderbyn wahoddiad i fynd i Lantrisant ar gyfer y diwrnod i gefnogi grwpiau dysgwyr a changen leol Merched y Wawr tra eu bod nhw’n dathlu’r Gymraeg. Dwi’n edrych ymlaen at ymweld ag ardal sy ddim yn gyfarwydd iawn i mi, er mwyn cwrdd â dysgwyr eraill a phobl sydd yn falch o’u Cymraeg.”

    Diolch i Fiona am ei hangerdd a’i hymroddiad tuag at y Gymraeg ac am gefnogi ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae eleni. Cysylltwch â swyddfa@dathlu.cymru am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd!

    Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.         The Welsh language belongs to us all.

    Continue reading →
  • Cyhoeddi pencampwr cyntaf Diwrnod Shwmae Sumae 2019! 30/09/2019
    Neil Rowlands – Un o bencampwyr Diwrnod Shwmae Sumae 2019

     

    Dros y saith mlynedd diwethaf, mae ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae wedi bod yn galw ar bencampwyr hyd a lled Cymru i helpu hyrwyddo’r diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Mae’r pencampwyr yma, o bob math o gefndiroedd, yn helpu’r ymgyrch i hybu’r syniad o ddechrau BOB sgwrs yn Gymraeg, a defnyddio ymadroddion syml fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.

    Bydd pum pencampwr yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Neil Rowlands, yn wreiddiol o Gaerdydd a nawr yn byw yng Nghasnewydd, yw ein pencampwr cyntaf am 2019! Dadansoddydd Data yw Neil, a sefydlwr y cylchgrawn dwyieithog arlein ‘Parallel’ – cylchgrawn sydd yn gwneud darllen yr iaith yn fwy hygyrch i ystod ehangach o bobl. Cafodd ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg trwy glywed cydweithwyr yn siarad yr iaith o gwmpas yr adran Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ar y pryd, roedd yn gweithio drws nesaf i’r adran ac roedd clywed y Gymraeg yn gyson am y tro cyntaf wedi neud iddo sylweddoli bod cymunedau o bobl yn defnyddio’r iaith bob dydd. Dyma’r gymuned hefyd yn y pendraw, wnaeth ei gefnogi fel dysgwr newydd, ynghyd â chanolfan iaith Tŷ Tawe. Ar ôl ymestyn ei fedrau iaith drwy siarad, dechreuodd wedyn gyfrannu nôl tuag at y gymuned Cymraeg drwy wirfoddoli, rhedeg y grŵp sgwrsio wythnosol i ddysgwyr, gweithio yn ad-hoc siop Tŷ Tawe ac mewn gigiau. O ran ei brofiad o ddysgu, meddai Neil:

    “Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg wedi rhoi’r cyfle i mi ddarganfod diwylliant a llenyddiaeth Cymru, a chaniatáu i mi greu cannoedd o gysylltiadau a ffrindiau newydd. Felly, taswn i ddim wedi trio dweud ‘Shwmae’ i bobl ar ddechrau fy nhaith dysgu, faswn i ddim wedi ennill yr holl brofiadau gwych dwi wedi eu cael na chael y cyfle i roi yn ôl i’r diwylliant Cymraeg. Erbyn hyn, baswn i ddim yn gallu dychmygu fy mywyd heb yr iaith.”

    Wrth esbonio pwysigrwydd ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae, meddai Neil:

    “Mae lot o bobl yng Nghymru gyda rhyw fath o brofiad yn yr iaith, ond weithiau dydy ni ddim yn defnyddio’r iaith ddigon. Does dim ots os dyn ni’n iaith gyntaf neu gefndir di-Gymraeg. Er barhad yr iaith, mae angen i ni ddefnyddio hi cymaint â phosibl – mae’n well cynnal sgwrs gyda thipyn o Gymraeg a rhai geiriau Saesneg na siarad Saesneg yn unig. Fel mae rhywun call wedi dweud, gwell Cymraeg slac na Saesneg slic! Mae’n bwysig dros ben i bobl ar draws y wlad glywed yr iaith ar strydoedd, mewn siopau ac ysgolion, a hefyd dangos angen yr iaith mewn tiliau a pheiriannau arian parod er mwyn creu rhesymau i gwmnïoedd mawr darparu gwasanaethau trwy’r iaith.”

    Diolch enfawr i Neil am ymuno gyda ni fel un o’n pencampwyr am y diwrnod cenedlaethol o ddathlu eleni! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.cymru am fwy o wybodaeth a chymorth pellach am drefniadau a digwyddiadau’r dydd a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd! Gallwch weld adnoddau cylchgrawn dwyieithog Parallel yma: https://parallel.cymru/

    Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb. The Welsh language belongs to us all.

    Continue reading →
  • Adnoddau Newydd! 18/09/2019

    Mae gennym nifer o adnoddau newydd ar gyfer Diwnrod Shwmae Su’mae 2019.

    Cadwch lygad ar y dudalen Adnoddau i’ch helpu i drefnu, hyrwyddo a dathlu gyda ni!

    Continue reading →
Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial