ShwmaeSumae 2016

ShwmaeSumae 2016

Diwrnod i fynd – Shwmae yn atseinio Sticeri Swci Delictrwy’r wlad

14/10/2016

Gyda dim ond diwrnod i fynd, mae cyfarchion Shwmae Su’mae eisoes yn atseinio trwy’r wlad.

Mae cannoedd o ysgolion, colegau a gweithleoedd yn cymryd y cyfle i ddathlu heddiw ac yn rhannu lluniau, fideos a chyfarchion ar gyfryngau cymdeithasol.

Tra’n ceisio ein gorau glas i gynnwys popeth ar y dudalen ddigwyddiadau, mae cymaint ‘mlaen, mae’n anodd dal lan! Anhygoel a gwefreiddiol! Da iawn bawb sy’n cymryd rhan – mae’n amlygu ein balchder fel cenedl. Dilynwch #ShwmaeSumae i fod yn rhan o’r sgwrs. Heddiw, fory a phob dydd – dechreuwch gyda Shwmae neu Su’mae, pwy a ŵyr ble eith y sgwrs a chi.

Sticeri Swci Delic

Cychwynnwch gyda Shwmae er mwyn cyfrannu at sgwrs genedlaethol

13/10/2016

Gyda dim ond dyddiau i fynd at Ddiwrnod Shwmae Su’mae, disgwylir cannoedd o ddigwyddiadau ar hyd a lled y wlad a thu hwnt.

Byddwch yn rhan o rywbeth enfawr trwy gyfarch eich gilydd yn Gymraeg ar ddydd Sadwrn 15 Hydref. Gallai un Shwmae neu Su’mae ysbrydoli cannoedd neu filoedd mwy yn ystod y flwyddyn.

Mae Dathlu’r Gymraeg, y mudiad ambarél tu ôl i Shwmae Su’mae yn pwysleisio fod y diwrnod yn eiddo i bawb. Mae’r fenter wedi sefydlu gwreiddiau cadarn dros y pedair blynedd ddiwethaf diolch i ymdrechion ar lawr gwlad. Dywed Rebecca Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg:

“Mae Diwrnod Shwmae Su’mae’n gyfle i ddathlu’r iaith – ac i sicrhau’r nifer fwyaf o gyfleoedd posib i’w defnyddio – drwy gyfarch yn Gymraeg ar y dechrau, yn hytrach na diolch yn Gymraeg ar y diwedd!”

Cefnogir yr ymgyrch gan bobl ddylanwadol ac ysbrydoledig. Bydd yr artist a chyn gantores-pop, Swci Delic yn gwneud siŵr fod yr ymgyrch yn denu eich sylw, gan ddefnyddio ei steil unigryw o batrymau a lliwiau llachar.

Swci Delic

 

Meddai Swci:

“Mae’n anrhydedd bod yn bencampwr Diwrnod Shwmae Su’mae. Pan gefais y gwahoddiad, penderfynais ddangos fy nghefnogaeth trwy wneud be fi’n hoffi gwneud fwyaf, peintio.  Roeddwn eisiau creu rhywbeth sbeshial i ddathlu’r diwrnod unigryw ‘ma.

“Trwy gychwyn pob sgwrs gyda Shwmae neu Su’mae, pwy a ŵyr lle aiff eich sgwrs? Dathlwch iaith y nefoedd!”

Mae golygfa liwgar yn aros trigolion tref enedigol Swci, sef Caerfyrddin, nos Wener, pan fydd y gwaith celf yn goleuo waliau Neuadd y Sir. Bydd cardiau post gyda’r patrwm trawiadol ar gael mewn digwyddiadau ar hyd a lled Cymru.

Hefyd yn cefnogi’r ymgyrch mae Osian Williams o’r band Candelas a Gwennan Mair sy’n gyflwynydd Radio Cymru Mwy a hwylusydd drama gyda Chwmni’r Frân Wen. Mae’r rhaglen ‘Run Sbit wedi agor drysau’r swyddfa ‘lookalikes’ yn arbennig ar gyfer yr ymgyrch, ac mae cynhyrchiad doniol iawn ar y we o Caren a Linda Brown yn paratoi ar gyfer diwrnod Shwmae Su’mae.

Gan fod Shwmae Su’mae yn disgyn ar ddydd Sadwrn eleni, bydd nifer o weithleoedd, ysgolion a cholegau yn dathlu dydd Gwener. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddathlu dwywaith. Bydd rhai ysgolion, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Pontypridd, yn dathlu dros wythnos gyfan.

Cynigir rhywbeth at ddant pawb:

  • Gall babanod yng Nghaerdydd fwynhau’r olygfa tra mae rhieni yn gwthio pramiau  a sgwrsio yn y Gymraeg o gwmpas Llyn y Rhath.
  • Mae Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru, yn galw ar ysgolion i gystadlu mewn cystadleuaeth farddoni.
  • Bydd gryn sŵn wrth i fyfyrwyr Coleg Pen-y-bont ar Ogwr gael sesiwn Clocs Ffit gyda Tudur Phillips
  • Bydd balwnau gyda negeseuon arbennig Shwmae  yn cael eu rhyddhau o Bafiliwn Porthcawl.
  • Boreau coffi o Wrecsam i Gaerffili.
  • Gwobrwyo dysgwyr yn Sir Benfro.
  • Gŵyl i ddysgwyr yn Llandrindod.
  • Noson cawl â chân yn Nolgellau.
  • Coctels Shwmae yng Nghaerdydd.
  • Sicrhewch fargen gan fusnesau sy’n cynnig disgownt i gwsmeriaid sy’n dweud Shwmae.
  • Rhestr lawn ar y dudalen ddigwyddiadau.

Dengys Ashok Ahir, dysgwr sydd wedi llwyddo cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol a phencampwr Shwmae Su’mae, fod gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn dda i fusnes. Mae’n gyfarwyddwr i gwmni PR Mela, sy’n ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth dwyieithog ac yn chwarae rhan allweddol yn ymgyrch lwyddiannus Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Together Stronger.

Dyma gyngor Ashok i ddysgwyr:Shwmae Ashok Ahir

“Cymrwch un cam ar y tro, gan ddechrau a Shwmae. Peidiwch poeni am weddill y sgwrs. Ar y dechrau, byddwn i’n cymysgu geiriau Cymraeg a Saesneg. Mae hyn yn rhan annatod o ddysgu sy’n gwella wrth ymarfer.

“Mae Shwmae Su’mae yn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg pob dydd, trwy ddangos pa mor hawdd y gall fod. Mae’n gyfle i fagu hyder trwy siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol.”

Hanfod Diwrnod Shwmae Su’mae yw cymunedau’n dod at ei gilydd i ddweud Shwmae mewn modd sy’n llawn hwyl a chynhwysol.

Dywed Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:

“Cofiwch gysylltu â’ch Menter Iaith leol heddiw i glywed mwy am y gweithgareddau yn eich ardal chi.”

Gellir dod o hyd i holl fanylion cysylltu’r Mentrau Iaith ar wefan Mentrau Iaith Cymru (www.mentrauiaith.cymru/dod-o-hyd-i-fenter).

 

 

 

‘Run Sbit yn paratoi ar gyfer Diwrnod Sticeri Swci DelicShwmae Su’mae

10/10/2016

Methu aros am y gyfres nesa o ‘Run Sbit? Na ni chwaith. Mae Caren a Linda Brown wedi agor drysau swyddfa’r lookalikes arbennig ar gyfer diwrnod Shwmae Su’mae…

Diolch enfawr i Caren, Linda, Archie a criw Cwmni Da am greu y clip arbennig yma!

 

Wythnos i fynd!

08/10/2016 Sticeri Swci Delic

Dim ond wythnos i fynd nes Sadwrn 15 Hydref, Diwrnod Shwmae Su’mae 2016.

Bydd Cymru gyfan yn cyfarch ein gilydd gyda Shwmae, Su’mae, Shwdi neu S’mai ac yn cael cyfle i ddathlu’r iaith ar draws y wlad.

Hyd yn hyn mae dros 100 o ddathliadau yn y dyddiadur, a’r rhestr yn tyfu pob dydd.

Eisiau bod yn rhan o’r stori? Rhowch gynnig arni.

 

O ddysgwr i bencampwr – Ashok Ahir yn cefnogi Shwmae Su’maeSticeri Swci Delic

23/09/2016

O ddysgwr i bencampwr – Ashok Ahir yn cefnogi Shwmae Su’mae 

Shwmae Ashok Ahir

Rydym yn hynod falch i gyhoeddi  Ashok Ahir fel pencampwr Shwmae Su’mae.

Wedi iddo dreulio blynyddoedd fel newyddiadurwr, golygydd a chynhyrchydd rhaglenni i’r BBC mae Ashok yn gyfarwyddwr i gwmni PR a Chyfathrebu dwyieithog, Mela, sydd wedi ei leoli yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd.

Meddai Ashok:

“Mae ymgyrch Shwmae Su’mae yn ffordd wych o ddylanwadu ac annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg pob dydd, trwy ddangos pa mor syml all defnyddio’r iaith fod.

“Mwy na dim, mae’n siawns i ddathlu yn y gymuned mewn ffordd naturiol.

“Mae’n gyfle i’n atgoffa i ddechrau sgwrs gyda cyfarch syml fel Shwmae er mwyn agor y drws am ymateb Cymraeg. Gobeithio y gall hyn ysbrydoli eraill i roi cynnig arni, gallai fod yr unig anogaeth sydd ei angen arnynt.”

Fel dysgwr sydd wedi llwyddo cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Ashok yn profi bod ymarfer a dyfalbarhad yn talu ar ei ganfed.

“Y gamp yw cymryd un cam ar y tro, gan ddechrau gyda Shwmae. Paid poeni am weddill y sgwrs, y cam cyntaf sy’n bwysig. Yn y dechrau, ro ni’n cymysgu geiriau Cymraeg gyda geiriau Saesneg. Mae hyn yn rhan anatod o ddysgu ac mae’n rhaid cynnal sawl sgwrs fel hyn er mwyn ymarfer a gwella. Dyma pam mae cyfleoedd i i fagu hyder trwy ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar mewn sefyllfa anffurfiol yn holl bwysig.”

Bydd Ashok yn gweithio’n agos gyda Shwmae Caerdydd i hwyluso a meithrin digwyddiadau trwy’r brifddinas.

Pencampwr Shwmae Su’mae yw’r ychwanegiad diweddara at restr o gyflawniadau Ashok, sydd hefyd yn cynnwys gwobr BAFTA Cymru.

Croeso mawr Ashok.

Swci Delic yn creu celf gofiadwy i gefnogi Diwrnod Shwmae Su’maeSticeri Swci Delic

20/09/2016

Swci Delic yn creu celf gofiadwy i gefnogi Diwrnod Shwmae Su’mae

Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae eleni yn siŵr o ddal eich llygaid. Mae’r artist Swci Delic, un o bencampwyr yr ymgyrch, wedi creu celf arbennig i dynnu sylw at yr achlysur a gynhelir ar ddydd Sadwrn 15 Hydref. Mae Swci yn adnabyddus am ei chelf liwgar, gofiadwy ac yn arbenigo mewn creu cynfasau enfawr.

Shwmae Shwmae Swci Delic
Swci Delic yn cefnogi Diwrnod Shwmae Su’mae

Bydd y darn, sy’n dilyn steil unigryw, celf ‘bop’ Swci, yn nodwedd amlwg o ymgyrch Shwmae Su’mae 2016. Bydd cyfle i’r rhai sy’n mynychu un o’r cannoedd o ddigwyddiadau ar draws y wlad dderbyn y dyluniad trawiadol ar gerdyn post. Nifer cyfyngedig caiff eu hargraffu, ac fe’u dosbarthir ar sail gyntaf i’r felin. Bydd cyfle i bawb fwynhau’r gwaith ar gyfryngau cymdeithasol, anogir y cyhoedd i’w rannu’n eang i godi ymwybyddiaeth o’r dydd.

Swci Delic

Meddai Swci:

“Mae’n anrhydedd bod yn bencampwyr Diwrnod Shwmae Su’mae gan fod yr iaith Gymraeg yn hynod bwysig i mi. Pan gefais y gwahoddiad, penderfynais ddangos fy nghefnogaeth trwy wneud be fi’n hoffi gwneud fwyaf, peintio. Roeddwn eisiau atgoffa pobl mewn ffordd gofiadwy.

“Rwy’n gobeithio bydd y darlun yn tynnu sylw, ysgogi pobl i ddarganfod mwy am y dydd a chymryd rhan.

“Rwy’n hoffi’r ffaith fod Diwrnod Shwmae Su’mae yn gyfle i bawb gofleidio’r iaith Gymraeg trwy ddod at ei gilydd i ddathlu a chael hwyl. Mae’r dydd yn agored i bawb; dysgwyr, pobl ddi-gymraeg neu’n rhugl, does dim ots. Mae’n bosib i bawb geisio cyfarch ei gilydd yn Gymraeg a sbarduno eraill wrth wneud.

“Mae fy nghwr Alex wrthi’n dysgu Cymraeg. Mae wrth ei fodd yn gwrando ar Radio Cymru a gwylio rhaglenni Cymraeg, ond mae dal ychydig yn swil am siarad yn gyhoeddus. Byddai clywed mwy o gyfarchion Cymraeg yn ei helpu ef ac eraill fagu hyder.”

Cyn iddi ddechrau peintio, roedd Swci (ganwyd Mared Lenny) yn adnabyddus fel y gantores Gymraeg lwyddiannus Swci Boscawen. Daeth y canu i ben yn sydyn yn 2010 pan drawyd hi gan gancr yr ymennydd. Yn dilyn triniaeth ddwys, daeth yr awydd sydyn i ddechrau – a methu stopio – peintio. Mae ei gwaith yn rhoi cipolwg ar gyflwr ymennydd sy’n brwydro cancr. Mae ei naws bositif wedi galluogi iddi lwyddo yn ei chrefft er gwaetha heriau anferthol ac mae ei agwedd gadarnhaol yn siwr o ysbrydoli eraill.

Dywedodd Swci: “Rhowch gynnig arni. Trefnwch rywbeth gyda’ch ffrindiau er mwyn eu hatgoffa i ddechrau pob sgwrs gyda Shwmae neu Su’mae. Pwy a ŵyr ble y gall arwain. Mwy na dim, mwynhewch!”

Swci yw’r cyntaf o bencampwyr 2016 i’w datgelu, bydd rhagor o enwau cyfarwydd yn cael eu cyhoeddi dros y dyddiau nesa.

 

Shwmae Su’mae – cymryd rhan Sticeri Swci Delic

17/09/2016

Diwrnod Shwmae Su’mae 15 Hydref 2016. Dyma sut i gymryd rhan:

Beth yw diwrnod Shwmae Su’mae?

Taflen Shwmae

 

Am drefnu digwyddiad? Mae adnoddau ar gael i hwyluso’r trefnu.

Os yn edrych am ysbrydoliaeth, neu eisiau gwybod be sy mlaen yn eich ardal chi, mae digon o syniadau ar y dudalen digwyddiadau, ar Facebook ( www.facebook.com/shwmaesumae2016 ) a Twitter ( @ShwmaeSumae ).

Rhowch gynnig arni!

 

 

Diwrnod Shwmae Su’mae 2016 – Mis i fynd

Gyda Diwrnod Shwmae Su’mae  yn prysur agosáu, mae’n debyg mae eleni bydd y gorau eto. Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, cynhelir y diwrnod o ddathlu blynyddol ar 15 Hydref. Dim ond mis i fynd.

1 mis i fynd | 1 Month to go

Mae’r dydd yn gyfle i ddathlu’r Gymraeg yn eich cymuned, gweithle neu ysgol. Ei bwrpas yw annog y genedl i ddechrau pob sgwrs gyda Shwmae neu Su’mae. Cyn pen dim bydd un Shwmae neu Su’mae yn troi yn gannoedd neu filoedd trwy gydol y flwyddyn.

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae 2016 ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf eleni. Cyflwyna hyn gyfle i blethu’r dathliadau gyda gweithgareddau hamdden,  ar y cae chwarae neu ar y stryd fawr. Anogir gweithleoedd neu sefydliadau addysg i ddathlu ar y dydd Gwener, fel nad ydynt yn colli cyfle gwerthfawr i fod yn rhan o’r hwyl.

Bydd mwy o fanylion, gan gynnwys digwyddiadau yn eich ardal chwi, yn dilyn maes o law. Dilynwch yr hashnod #ShwmaeSumae am ddiweddariadau cyson.

I drafod eich syniadau, neu gynnwys eich digwyddiad ar y wefan, gyrrwch e-bost.

 

 

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial