ShwmaeSumae2015

ShwmaeSumae2015

Y Cynulliad yn dathlu Shwmae

Y Cynulliad yn dathlu diwrnod ShwmaeSu’mae gydag wythnos o weithgareddau a fideo arbennig

2015 Cynulliad

Dyma’r fideo

NAT WEST CYMRU YN GWEIDDI SHWMAE SU’MAE DYDD IAU

natwest
Bydd NatWest Cymru yn cefnogi Diwrnod Shwmae Su’mae Ddydd Iau, Hydref 15ed ym mhob un o’i ganghennau ledled Cymru. Mae’r cwmni, sy’ wedi ei achredu gan Lles am eu gwasanaethau Cymraeg, yn falch o’r cyfle i ddangos ei ymrwymiad i’r iaith unwaith eto yn ôl Cyfarwyddwr Nat West Cymru, Mark Douglas:

“Rydym yn gweld ei hun fel banc cymunedol gydag elfen gref o Gymreictod yn ein hethos, a’r iaith Gymraeg yn graidd i’r ethos hynny ac rydym wrth ein boddau i gael y cyfle i gyd-weitho gyda ‘Diwrnod Shwmae Su’mae’ gan estyn ein croeso cynnes Cymraeg i gynulleidfa ehangach”.
Esboniodd Mark am sut mae perthynas y cwmni gyda LlesCyf wedi’i helpu i ddatblygu’i wasanaethau Cymraeg:
“Mae achrediad Lles Cyf wedi cynnig cyfleon i ni nad oedd ar gael yn y gorffennol ac wedi ehangu’n gorwelion ynglyn â sut y hoffem ni weithredu yn y dyfodol gyda’r iaith yn ganolbwynt i hunaniaeth y banc yng Nghymru. O ymweliadau i’r Eisteddfod gwersi ail-iaith yn Nant Gwrtheyrn a’r cyfle i hyrwyddo Diwrnod Shwmae Su’mae mae arbenigedd LlesCyf wedi bod yn hanfodol i’n datblygiad ieithyddol.” natwest2

Mae cyfarwyddwr LlesCyf, Evan Powell yn gweld agwedd gadarnhaol NatWest Cymru at y Gymraeg fel trobwynt ym mherthynas yr iaith â’r byd busnes:
“Am rhy hir nawr mae mudiadau Cymraeg wedi gweld y byd busnes fel maes sy’ ddim yn gefnogol i’r iaith ar sail costau. Erbyn hyn mae LlesCyf am gynorthwyo cwmniau i fabwysiadu safbwynt llawer mwy positif at yr iaith a’i gweld fel cyfle masnachol sy’n ychwanegu at y gwaith da y maent yn gwneud yn barod.
“Mae NatWest Cymru wedi arwain y ffordd gan benderfynu y bydd y Gymraeg yn chwarae rôl annatod yn ei hunaniaeth a’i brand yng Nghymru, sy’n ei galluogi i ddeall a chyd-weithio gyda grwpiau Cymraeg yn y gymuned yn ogystal â’r llwyfan genedlaethol. Mae LlesCyf yn falch iawn o gynorthwyo NatWest Cymru ar y daith ieithyddol.”natwest1

Mae cefnogaeth NatWest Cymru yn hwb mawr i Diwrnod Shwmae Su’mae yn ôl Gaynor Jones sy’n helpu cydlynnu’r digwyddiad:
“Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn tyfu bob blwyddyn ac yn parhau i fynd o nerth i nerth,”meddai. “Ond mae cefnogaeth NatWest Cymru yn dangos ein bod ni’n datblygu yn nhermau cefnogaeth a bod y digwyddiad yn apêlio at farchnad newydd. Rydym yn gwerthfawrogi cydweithrediad a gweledigaeth LlesCyf a NatWest Cymru i sicrhau’r gefnogaeth sylweddol yma.”

Cynhelir y Diwrnod ShwmaeSu’mae ar Ddydd Iau 15fed Hydref yn genedlaethol. Am ragor o wybodaeth am y dathliadau cysylltwch â Gaynor Jones ar gaynorjones@dathlu.org ac am sut i ddatblygu neu hyrwyddo eich gwasanaethau busnes Cymraeg cysylltwch â LlesCyf ar gwybodaeth@lles-cyf.com

Y Scarlets, Nat West a Tharan

shwmaesumae15Hydref

Dyma ni yn agosau at Ddiwrnod Shwmae Sumae 2015. Cofiwch gofrestru gyda’r Taran Trydar – y Thunderclap- heddiw er mwyn creu cynnwrf Cymraeg ar y we dydd Iau!

2015NatWest2015EnillScarlets

Gerifa ar gyfer y Dafarn, Cafe, Swyddfa a Siop

2015 Geirfa MIC

Mae Mentrau Iaith Cymru wedi paratoi taflenni i’w dosbarthu i fusnesau ar hyd a lled Cymru, yn siopau, tafarndai, caffis a swyddfeydd mewn ymgais i annog mwy o bobl i roi cynnig ar ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae’r taflenni wedi eu creu i gyd-fynd â dathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae a gynhelir ar y 15fed o Hydref eleni – diwrnod sy’n annog pawb yng Nghymru i fyw, dysgu a mwynhau’r Gymraeg.

Mae’r Cardiau ar gael yma –  MIC

 

Y Scarlets ac eraill yn gweiddi Shwmae Sumae 2015

Logo Scarlets

Ar ddydd Iau, Hydref 15ed cynhelir y trydydd Diwrnod Shwmae Sumae ac unwaith eto bydd nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal ar draws y wlad I annog pobl I gyfarch pawb gyda “Shwmae” neu “Su’mae”.

Nôd yr ymgyrch yw:
gwneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus,
dangos bod yr iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu hyfedredd
ac o ganlyniad annog a sicrhau defnydd o’r Gymraeg drwy’r flwyddyn.

Bu’r ymgyrch yn lwcus iawn i dderbyn cefnogaeth unigolion a sefydliad deinamig tu hwnt eleni. Pencampwyr 2015 yw’r diddanwr y Welsh Whisperer, Gareth Wyn Jones y ffermwr a’r darlledwr o Lanfairfechan, criw Canolfan Soar Merthyr Tudful sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r ardal ac Angharad Williams sy’n rhedeg siopau Lan Llofft yn Llambed a Machynlleth.Gareth WJ

Meddai Gareth Wyn Jones:
“mae’n gret I fod yn rhan o ymgyrch Sumae sy’n annog pobl i siarad Cymraeg, peidwch a bod yn swil rhowch gynnig. Rwyf yn gwneud fy ngorau i hyrwyddo y Gymraeg a fel ffermwr mae’r iaith yn rhan allweddol o’n diwylliant a’n diwydiant cefn gwlad. Mae’n bwysig ei defnyddio bob dydd. Os na wnewn ni pwy fydd?”

Welsh WhispMeddai y Welsh Whisperer, sy’n droellwr recordiau ar Môn FM:
“Rwy’n falch iawn I fod yn rhan o’r ymgyrch i hybu’r iaith ac agor drysau i pobol di-Gymraeg a’u croesawu yn gynnes i ddysgu’r iaith. Mae’n braf bod yn rhan o’r un ymgyrch â ffarmwr enwocaf Cymru (na, nid Dai Llanilar ond) Gareth Wyn Jones o Lanfairfechan! Mae’r ddau ohonom yn gwisgo cap stabal yn rheolaidd, yn angerddol dros yr iaith, cymunedau Cymru a chwrw Cymreig wrth gwrs.”

AngharadDywedodd y wraig fusnes Angharad Williams:
“ Rwy’n browd iawn I helpu hybu y diwrnod a lledaenu’r neges I ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg. Mae defnyddio y Gymraeg mewn siop gymuedol fel Lan Llofft a Duet yn angenrheidiol mewn ardal fel Llanbed. Yn naturiol rydym eisiau croesawu cwsmeriaid yn y Gymraeg ac mae’n gam naturiol i ddefnyddio yr iaith ar ein cyfryngau cymdeithasol. O ganlyniad rydym wedi cael mwy o gefnogaeth gan ein cwsmeriaid am eu bod nhw eisiau cefnogi busnesau lleol Cymraeg. “

Bydd Clwb Rygbi y Scarlets yn cefnogi y diwrnod hefyd drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau ar y nos Wener ganlynol, cyn y gêm bwysig rhwng y Scarlets a Leinster ar Hydref 16eg. Gyda chydweithrediad Menter Gwendraeth Elli, mentrau lleol eraill a’r Lle (canolfan iaith newydd Llanelli) bydd amrywiaeth o adloniant yn cael ei ddarparu ar gyfer y teulu cyfan rhwng 5 a 7 o’r gloch. Felly gwnewch nodyn ohonno yn eich dyddiaduron.

Yn Sir Benfro mae criw Shwmae yn trefnu yr ail seremoni wobrwyo ar ðl llwyddiant y seremoni llynedd. Nid yw Diwrnod Shwmae Sumae yn derbyn unryw nawdd na arian grant I hybu’r ymgyrch, mae’i gyd yn nwylo unigolion brwdfrydig, fel plant Ysgol Archesgob Mcgrath, Peynbont-ar-Ogwr sydd bellach wedi cymryd y cyfrifoldeb am drefnu y digwyddiad eu hunain. Mae Dathlu’r Gymraeg yn gobeithio y bydd cymunedau ledled Cymru yn perchnogi’r diwrnod unwaith eto. Rhowch gynnig arni!

Shwmae Sumae 2015

ShwmaeShwmae a Sumae! Mae’n fis Medi unwaith eto a dyma ni yn dechrau paratoi ar gyfer Diwrnod Shwmae Sumae 2015. Ry’ ni wedi cyrraedd yr entrychion gyda llaw – Dyddiadur y Lolfa 2016 – Hwre!

Roedd Diwrnod Shwmae Sumae 2014 yn llwyddiant ysgubol, gyda dathliadau yn digwydd ledled Cymru a thu hwnt – ym Mhwllheli, Casnewydd, Merthyr, Llambed, Vienna, Y Wladfa, Bangor, Amlwch, Derby, Fflint a sir Benfro. Pawb yn gweithio yn galed i godi proffeil yr iaith, ond yn bwysicach oll ei defnyddio a’i hyrwyddo ac annog eraill i wneud hefyd drwy gydol y flwyddyn.

Erbyn hyn mae gan Diwrnod Shwmae Sumae momentwm ei hun ac mae’n lledaenu ar hyd y wlad drwy  amryw o gyrff, ysgolion, unigolion a chymdeithasau, fel ton Mexican mewn gêm bêldroed. Mae’n anodd iawn cadw cyfrif ar bobpeth sy’n digwydd ond o gadw llygad ar yr adborth ar ein tudalen Facebook 2014 a chyfrif Twitter rwy’n sicr bod na dros 500 o ddigwyddiadau wedi eu cynnal yn 2014. Felly gobeitho bod hyd yn oed fwy o bethau ar y gweill eleni.

Fel y gwyddoch mae llwyddiant a pharhâd Diwrnod Shwmae Sumae yn eich dwylo chi, felly rhowch wybod inni am eich digwyddiad drwy gysylltu a’n tudalen Facebook a’n dilyn ni ar @ShwmaeSumae #DSS20015. Mae nifer o awgrymiadau a syniadau ar y dudalen facebook i’ch hysbrydoli gobeithio a rhestr o beth ddigwyddodd yn 2014 ar ein gwefan

Cofiwch gysylltu gyda mi os ydych chi am drafod unrywbeth
Pob hwyl am y tro

Gaynor

gaynorjones@dathlu.org

2015llun2

 

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial