Croeso!
NEWYDD – 2025!
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig sesiwn ar-lein i fusnesau sy’n rhan o gynllun Hapus i Siarad (neu sy’n ystyried cymryd rhan) i roi tips ymarferol sut i siarad efo dysgwyr. Bydd y sesiwn ar nos Fawrth, 18 Mawrth am 7.00yh ac mae’n rhad ac am ddim.
I gofrestru: https://dysgucymraeg.cymru/newyddion/busnesau-hapus-i-siarad/
Helpwch ni i ddathlu
Diwrnod Shwmae Su’mae, 15 Hydref!
Cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, yn yr ysgol, ar y maes chwarae a gyda’ch ffrindiau, ar-lein neu wyneb yn wyneb!
Cofiwch dagio ni yn eich postiadau am ddigwyddiadau 2024, er mwyn i ni helpu hysbysebu a hyrwyddo!
diwrnodshwmae@gmail.com / #shwmaesumae24
Rhestr Chwarae Diwrnod Shwmae Su’mae 2024 ar Spotify!
Pecyn Hyrwyddo 2024
Mae’r pecyn yn cynnwys syniadau ar gyfer dathlu’r diwrnod a phoster i’w lawrlwytho i’ch helpu
i hyrwyddo eich digwyddiadau! Gallwch lamineiddio’r swigod i’w defnyddio yn eich lluniau
ac argraffu’r sticeri i’w gwisgo ar y diwrnod.