Beth yw Diwrnod Shwmae Sumae?
Beth yw Diwrnod Shwmae Sumae?
Dathlwyd y Diwrnod Shwmae Sumae cyntaf ar 15 Hydref, 2013 i hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi! Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr a’r rhai sy’n swil eu Cymraeg. Mae’r Diwrnod yn cael ei ddathlu bob blwyddyn erbyn hyn ar 15 Hydref.
Pwy sy’n dathlu Diwrnod Shwmae Sumae?
CHI! Cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, gyda ffrindiau. Yn y gorffennol dathlodd ysgolion, bwytai a gorsafoedd radio y diwrnod dros Gymru gyda digwyddiadau yn digwydd yn Lloegr, Ewrop a’ r Ariannin yn y gorffennol.
Sut y gallwch chi ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae?
Edrychwch o dan y ddolen adnoddau ar y wefan hon. Gadewch i ni wybod beth fydd eich digwyddiad eleni ar gyfer Diwrnod Shwmae Sumae.
Pwy sy’n ei gyd-lynnu?
Mentrau Iaith Cymru sydd wrth y llyw ers 2024 gyda’r 22 Menter drwy Gymru gyfan yn hyrwyddo’r ymgyrch yn eu hardaloedd lleol. I ddod o hyd i wybodaeth am eich Menter leol chi, ewch i : https://mentrauiaith.cymru/
Sut y gallaf gysylltu â chi?
Ewch ar Facebook, Instagram neu e-bostiwch diwrnodshwmae@gmail.com