ShwmaeSumae2014

ShwmaeSumae2014

Atgofion 2014

Atgofion

Gwobrwyo yn Sir Benfro

MariGrugMae Mari Grug, cyflwynwraig Heno a’r Tywydd, yn mynd i noson arbennig yn Sir Benfro ar ddiwrnod Shwmae Su’mae i wobrwyo dysgwyr a phencampwyr y Gymraeg y Sir.

 

 

 

 

 

Shwmae Sumae yn agosau

Gwobr Sir Benfro 2014Dyma wobr hyfryd Seremoni Wobrwyo Shwmae Sir Benfro a gynhelir ar Hydref 15. Mae’r Urdd, MYW, CFFI, TWF, y Cyngor Sir, Merched y Wawr a’r Fenter Iaith leol wedi noddi y digwyddiad a dyluniwyd y tlws hyfryd gan Eifion Thomas y gof. Cafwyd nifer fawr o enwebiadau yn fusnesau, teuluoedd neu unigolion sydd wedi hybu ac ymdrechu i gefnogi yr iaith yn eu milltir sgwar. Beth am ddo ynghyd i drefnu rhywbeth tebyg yn eich sir chi ar gyfer 2015?

Merthyr 2014Eleni bydd Coleg Merthyr yn cynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth a Choleg Penfro yn cynhyrchu fideo arall, ac mae nifer o ysgolion di-Gymraeg y de yn trefnu gweithgareddau Cymraeg i hybu yr iaith ymhlith eu staff a’r disgyblion.

Mae’n wych bod y Cinio Mawr >>  Linc wedi penderfynu cynnal eu digwyddiadau i gydfynd a Diwrnod Shwmae Sumae eleni.

Dim ond ychydig o wythnosau sydd i fynd tan Diwrnod Shwmae Sumae 2014. Cofiwch rhoi gwybod inni beth sydd ar y gweill.

Rhowch gynnig arni!

 

Dathlu ShwmaeSu’mae gyda Cinio Mawr

Mae Y Cinio Mawr yn falch iawn i gefnogi ‘Diwrnod Shwmae Sumae‘ y flwyddyn yma – diwrnod i ddathlu y Gymraeg ymhob cwr o Gymru ar 15 Hydref 2014.Y Cinio Mawr

Nod Y Cinio Mawr yw i gysylltu pobl a chryfhau cymunedau, felly, gyda mis i fynd tan yr ail Ddiwrnod Shwmae Su’mae, pa ffordd gwell i ymarfer eich Cymraeg, i gael sbri a rhannu yr iaith nag i gynnal Cinio Mawr yn eich stryd, ysgol, gweithle neu parc lleol? Gall fod yn unrhywbeth o gwpwl o gymdogion yn rhannu cacen yn yr ardd gefn i’r swyddfa oll yn rhannu gwledd dros y ddesg! Ewch amdani

Syniadau i ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae gyda Chinio Mawr:

 

Diwrnod Shwmae Sumae! Hydref 15ed 2014

shwmaelansio2014Lansiwyd Diwrnod Shwmae Su’mae 2014 (#DSS2014) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar ym mis Awst a hyderwn y bydd hyd yn oed mwy yn ymuno yn y dathliadau eleni am yr eil dro neu yn trefnu rhywbeth yn eu broydd am y tro cyntaf ar ddydd Mercher Hydref 15ed.

Ymhlith y pencampwyr iaith newydd mae Martyn Croydon, Dysgwr y Flwyddyn 2014, y prifardd a’r bragwr, Myrddin ap Dafydd, y gyflwynwraig Angharad Mair a’r awdures Bethan Gwanas, Llinos Penfold a Catrin Phillips o Shwmae Sir Benfro, a Rhys Llewelyn, trefnydd Pared Dewi Sant Pen Llyn.

Cafwyd ymateb anhygoel i’r Diwrnod Shwmae Su’mae! cyntaf yn 2013. Cynhaliwyd 150 o weithgareddau o Wrecsam i’r Andes, gan ysgolion, busnesau, cylchoedd dysgwyr a chymdeithasau. Cynhyrchwyd gweithdai rapio yng Ngheredigion, fideos yn Sir Benfro a boreuon coffi yn Nyffryn Nantlle. Ac mae pethau yn addo berwi drosodd eleni gan bod criw Sir Benfro wedi trefnu seremoni wobrwyo I bobl sydd wedi cyfrannu tuag at Gymreictod y sir. Ac mae disyblion Ysgol yr Archesgob McGrath ym Mhenybont eisioes yn gweithio ar syniadau

Ymgyrch llawr gwlad yw hi sy’n gweithredu heb unryw nawdd ac sy’n dangos fod y Gymraeg yn perthyn I bawb.

Dywed Catrin Dafydd ar ran Dathlu’r Gymraeg:

“Roedd brwdfrydedd pawb llynedd yn ysbrydoliaeth ac wedi ysgogi gwaddol hir dymor. O ganlyniad I fore coffi mewn un ysgol penderfynodd y rhieni di-Gymraeg gychwyn dosbarth dysgu Cymraeg i oedolion.

“Mae Dathlu’r Gymraeg yn gobeithio y bydd cymunedau ledled Cymru yn perchnogi’r diwrnod unwaith eto. Mae rhai Canolfannau Dysgu Cymraeg I Oedolion yn brysur yn trefnu digwyddiadau ar gyfer Hydref 15ed. Ond nid diwrnod I ddysgwyr yn unig yw hwn. Bwriad yr ymgyrch yw annog pawb I ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.Shwmae Sumae 15Hydref

“Mae diwrnod Shwmae Sumae yn ddiwrnod I annog pawb yng Nghymru I fod yn hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn perthyn I bawb sydd wedi gwneud Cymru’n gartref. A gennym ni bobl Cymru mae’r grym I gadw’r Gymraeg yn fyw. Gall pawb fod yn rhan o’r daith o’r eiliad y byddwn yn dweud shwmae neu su’mae ar ddechrau sgwrs, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o Gymraeg sydd gennym.”

 

Diwrnod Shwmae Sumae! 2014 yn ferw yn Nhre’r Sosban!

Am 4 o gloch dydd Llun Awst 4 ym mhod Maes D ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr bydd grwp ymbarél Dathlu’r Gymraeg yn lansio ymgyrch Diwrnod Shwmae Su’mae 2014 (DSS2014) fydd yn cymryd lle unwaith eto eleni ar Hydref 15ed.

Ymhlith y pencampwyr iaith newydd mae Martyn Croydon, Dysgwr y Flwyddyn 2014, y prifardd a’r bragwr, Myrddin ap Dafydd, y gyflwynwraig Angharad Mair a’r awdures Bethan Gwanas ac mae rhagor I ddod.

Cafwyd ymateb anhygoel i’r Diwrnod Shwmae Su’mae! cyntaf yn 2013. Cynhaliwyd 150 o weithgareddau o Wrecsam i’r Andes, gan ysgolion, busnesau, cylchoedd dysgwyr a chymdeithasau. Cynhyrchwyd gweithdai rapio yng Ngheredigion, fideos yn Sir Benfro a boreuon coffi yn Nyffryn Nantlle. Ac mae pethau yn addo berwi drosodd eleni gan bod criw Sir Benfro wedi trefnu seremoni wobrwyo I bobl sydd wedi cyfrannu tuag at Gymreictod y sir. Ac mae disyblion Ysgol yr Archesgob McGrath ym Mhenybont yn gweithio ar syniadau eisioes

Ymgyrch llawr gwlad yw hi sy’n gweithredu heb unryw nawdd ac sy’n dangos fod y Gymraeg yn perthyn I bawb.

Dywed Catrin Dafydd ar ran Dathlu’r Gymraeg:

“Roedd brwdfrydedd pawb llynedd yn ysbrydoliaeth ac wedi ysgogi gwaddol hir dymor. O ganlyniad I fore coffi mewn un ysgol penderfynodd y rhieni di-Gymraeg gychwyn dosbarth dysgu Cymraeg i oedolion.

“Mae Dathlu’r Gymraeg yn gobeithio y bydd cymunedau ledled Cymru yn perchnogi’r diwrnod unwaith eto. Mae rhai Canolfannau Dysgu Cymraeg I Oedolion yn brysur yn trefnu digwyddiadau ar gyfer Hydref 15ed. Ond nid diwrnod I ddysgwyr yn unig yw hwn. Bwriad yr ymgyrch yw annog pawb I ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

“Mae diwrnod Shwmae Sumae yn ddiwrnod I annog pawb yng Nghymru I fod yn hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn perthyn I bawb sydd wedi gwneud Cymru’n gartref. A gennym ni bobl Cymru mae’r grym I gadw’r Gymraeg yn fyw. Gall pawb fod yn rhan o’r daith o’r eiliad y byddwn yn dweud shwmae neu su’mae ar ddechrau sgwrs, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o Gymraeg sydd gennym.

Dilynwch ni ar: www.shwmae.org

Facebook: Diwrnod Shwmae Sumae 2014

Twitter: @shwmaesumae

#DSS2014

Croeso!

 

IMG_5682 rocesi

 

Croeso i Ddiwrnod Shwmae Sumae. Llynedd cafwyd ymateb penigamp i’r ymgyrch gyda dros gant o ddigwyddiadau yn digwydd ar hyd a lled Cymru ac hyd yn oed y Wladfa! Gobeithio bydd cynnydd eleni eto gyda digwyddiadau yn lledu i Loegr, yr UDA, anfeidredd a thu hwnt ac hyd yn oed yn … Brynsiencyn!

 

Cymrwch olwg ar y wefan am wybodaeth am Shwmae Sumae, i weld beth ddigwyddodd llynedd, ac am syniadau am beth allwch drefnu ar gyfer eleni. Dilynwch ni ar Twitter a Facebook. Gallwch drefnu bore coffi ar y cyd a chriw o bobl amrywiol o bensiynwyr i ddysgwyr.

 

Beth am drefnu cystadleuaeth yn yr ysgol; gwisg ffansi yn y cylch meithrin? Cynnig disgownt yn eich siop ac addurno eich ffenestr gyda nwyddau Cymreig? Mae’n gyfle i gasglu pobl ynghyd i rannu’r iaith gyda dysgwyr a phobl sydd ychydig yn swil am eu Cymraeg. Ewch amdani!

 

 

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial