Swci Delic yn creu celf gofiadwy i gefnogi Diwrnod Shwmae Su’mae

Swci Delic yn creu celf gofiadwy i gefnogi Diwrnod Shwmae Su’mae

Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae eleni yn siŵr o ddal eich llygaid. Mae’r artist Swci Delic, un o bencampwyr yr ymgyrch, wedi creu celf arbennig i dynnu sylw at yr achlysur a gynhelir ar ddydd Sadwrn 15 Hydref. Mae Swci yn adnabyddus am ei chelf liwgar, gofiadwy ac yn arbenigo mewn creu cynfasau enfawr.

Shwmae Shwmae Swci Delic

 

Bydd y darn, sy’n dilyn steil unigryw, celf ‘bop’ Swci, yn nodwedd amlwg o ymgyrch Shwmae Su’mae 2016. Bydd cyfle i’r rhai sy’n mynychu un o’r cannoedd o ddigwyddiadau ar draws y wlad dderbyn y dyluniad trawiadol ar gerdyn post. Nifer cyfyngedig caiff eu hargraffu, ac fe’u dosbarthir ar sail gyntaf i’r felin. Bydd cyfle i bawb fwynhau’r gwaith ar gyfryngau cymdeithasol, anogir y cyhoedd i’w rannu’n eang i godi ymwybyddiaeth o’r dydd.

Meddai Swci:

“Mae’n anrhydSwci Delicedd bod yn bencampwyr Diwrnod Shwmae Su’mae gan fod yr iaith Gymraeg yn hynod bwysig i mi. Pan gefais y gwahoddiad, penderfynais ddangos fy nghefnogaeth trwy wneud be fi’n hoffi gwneud fwyaf, peintio. Roeddwn eisiau atgoffa pobl mewn ffordd gofiadwy.

“Rwy’n gobeithio bydd y darlun yn tynnu sylw, ysgogi pobl i ddarganfod mwy am y dydd a chymryd rhan.

“Rwy’n hoffi’r ffaith fod Diwrnod Shwmae Su’mae yn gyfle i bawb gofleidio’r iaith Gymraeg trwy ddod at ei gilydd i ddathlu a chael hwyl. Mae’r dydd yn agored i bawb; dysgwyr, pobl ddi-gymraeg neu’n rhugl, does dim ots. Mae’n bosib i bawb geisio cyfarch ei gilydd yn Gymraeg a sbarduno eraill wrth wneud.

“Mae fy nghwr Alex wrthi’n dysgu Cymraeg. Mae wrth ei fodd yn gwrando ar Radio Cymru a gwylio rhaglenni Cymraeg, ond mae dal ychydig yn swil am siarad yn gyhoeddus. Byddai clywed mwy o gyfarchion Cymraeg yn ei helpu ef ac eraill fagu hyder.”

Cyn iddi ddechrau peintio, roedd Swci (ganwyd Mared Lenny) yn adnabyddus fel y gantores Gymraeg lwyddiannus Swci Boscawen. Daeth y canu i ben yn sydyn yn 2010 pan drawyd hi gan gancr yr ymennydd. Yn dilyn triniaeth ddwys, daeth yr awydd sydyn i ddechrau – a methu stopio – peintio. Mae ei gwaith yn rhoi cipolwg ar gyflwr ymennydd sy’n brwydro cancr. Mae ei naws bositif wedi galluogi iddi lwyddo yn ei chrefft er gwaetha heriau anferthol ac mae ei agwedd gadarnhaol yn siwr o ysbrydoli eraill.

Dywedodd Swci: “Rhowch gynnig arni. Trefnwch rywbeth gyda’ch ffrindiau er mwyn eu hatgoffa i ddechrau pob sgwrs gyda Shwmae neu Su’mae. Pwy a ŵyr ble y gall arwain. Mwy na dim, mwynhewch!”

Swci yw’r cyntaf o bencampwyr 2016 i’w datgelu, bydd rhagor o enwau cyfarwydd yn cael eu cyhoeddi dros y dyddiau nesa.