Newyddion
Lansio cynllun ‘Hapus i Siarad’ ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae
Bydd Mentrau Iaith Cymru’n annog busnesau lleol i ymuno â chynllun ‘Hapus i Siarad’ wrth i’r mudiad cenedlaethol arwain dathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae 2024 ar 15 Hydref.
Wedi cynllun peilot llwyddiannus yn siroedd Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Fflint a Wrecsam yn gynharach eleni, bydd busnesau trwy Gymru gyfan bellach yn cael cyfle i ymuno â’r cynllun ac arddangos poster sy’n dangos eu bod yn ‘hapus i siarad’ Cymraeg â’u cwsmeriaid.
Meddai Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, “Mae MIC yn hynod falch o gymryd yr awenau eleni ac arwain dathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae wedi gwaith gwych gan fudiadau Dathlu’r Gymraeg ers dros ddegawd. A gan fod busnesau bach yn chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau, lle gwell i ddathlu’r Gymraeg nag yng nghalon y gymdeithas leol? Gan ddefnyddio ein rhwydwaith o 22 Menter Iaith drwy Gymru gyfan, down o hyd i fusnesau bach sy’n ‘Hapus i Siarad’ Cymraeg â’u cwsmeriaid gyda’r ymgyrch yn cael ei lansio ar 15 Hydref i gyd-fynd â Diwrnod Shwmae Su’mae.”
Bydd busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, yn derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Mae croeso i berchnogion busnes gysylltu â’u Menter Iaith leol neu Fentrau Iaith Cymru am fanylion pellach.
Yn ogystal ag annog busnesau bach i ymuno yn y dathliadau, mae Mentrau Iaith Cymru yn gwahodd sefydliadau ac unigolion i fynd ati i drefnu digwyddiadau i nodi Diwrnod Shwmae Su’mae. Darperir pecynnau digidol llawn syniadau, posteri a chyngor am sut i gael hwyl wrth siarad Cymraeg boed hynny yn yr ysgol, yn y gwaith, yn y cartref neu gyda ffrindiau. Bydd y pecynnau ar gael i’w rhannu yn nes at yr amser. (shwmae.cymru)
Bydd modd i bawb sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch rannu profiadau a lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashtag #SHWMAESUMAE24 neu drwy dagio @ShwmaeSumae ar Facebook ac X neu @diwrnodshwmaesumae ar Instagram.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: diwrnodshwmae@gmail.com