Cyhoeddi ail pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019!

Cyhoeddi ail pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019!

Fiona Collins, Chwedleuwraig, Dysgwraig y Flwyddyn a Phencampwraig Diwrnod Shwmae Sumae 2019!

Dyma gyhoeddi ail bencampwr ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae 2019. Mae pencampwyr hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn, sef i hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, a defnyddio ymadroddion syml, fel modd o normaleiddio’r iaith.

Rydym yn hynod o falch o gyhoeddi taw ein hail bencampwr am 2019 yw’r Chwedlonwraig ac enillydd cystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol Dysgwr y Flwyddyn, Fiona Collins, yn wreiddiol o Swydd Hampshire yn Lloegr, ac erbyn hyn yn byw yng Ngharrog, Sir Ddinbych. Dechreuodd Fiona ddysgu Cymraeg yn Llundain, cyn parhau i ddysgu mwy pan benderfynodd symud i Gymru. Hiraeth a ddaeth â Fiona i Gymru. Roedd ei mam yn Gymraes o Rymni, nyrs a symudodd i ysbyty bach yn Hampshire ar ôl fod yn gweithio yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd gan ei thad dafarn gyferbyn â’r ysbyty bach hwnnw, a dyna sut wnaeth ei rhieni hi gwrdd! Hi yw’r cyntaf o’i theulu i ddysgu Cymraeg. Chwedleuwraig yw Fiona, oedd yn teimlo ei fod yn angenrheidiol iddi allu adrodd chwedlau Cymru yn yr iaith Gymraeg – “chwedlau’r wlad yn iaith y wlad” fel y dwedai. Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae Sumae, a’i rôl hi fel un o bencampwyr y diwrnod eleni, meddai Fiona:

“Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn annog pobl i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, a does dim ffordd gorau i godi hyder na defnyddio pob smic o Gymraeg sydd gennoch chi. Dwi’n credu bod pawb sydd yn byw yng Nghymru yn gallu tipyn o Gymraeg. ‘Dan ni i gyd yn deall fod ‘Araf’ ar y ffordd yn golygu ‘lleihau’r cyflymder’, a bod ‘Maes Parcio’ yn rhywle i adael y car! Felly dwi wastad yn annog pobl sy ddim yn Gymry Cymraeg i beidio dweud ‘Dydw’i ddim yn siarad Cymraeg’, ond yn hytrach dweud, ‘Dwi’n siarad tipyn bach o Gymraeg’. Fel hyn, maen nhw’n cydnabod y Gymraeg SYDD ganddyn nhw, hyd yn oed os dim ond ‘Cymraeg arwyddion y ffordd’ yw hi.”

Basau Fiona yn hoff o weld mwy o siopau bach a mawr yn annog eu staff i gyfarch pawb trwy gyfrwng y Gymraeg ar Ddiwrnod Shwmae Sumae eleni, er mwyn normaleiddio’r iaith a chreu mwy o fwrlwm. Hoffai hefyd weld ysgolion yn annog mwy o angerdd ymysg disgyblion sydd eisoes yn weithgar dros faterion hinsawdd i fod yn angerddol dros eu hiaith hefyd. Ar Ddiwrnod Shwmae Sumae eleni, mi fydd Fiona yn teithio i de Cymru i gefnogi gweithgarwch lleol yno i ddathlu a defnyddio’r Gymraeg;

“Dwi newydd dderbyn wahoddiad i fynd i Lantrisant ar gyfer y diwrnod i gefnogi grwpiau dysgwyr a changen leol Merched y Wawr tra eu bod nhw’n dathlu’r Gymraeg. Dwi’n edrych ymlaen at ymweld ag ardal sy ddim yn gyfarwydd iawn i mi, er mwyn cwrdd â dysgwyr eraill a phobl sydd yn falch o’u Cymraeg.”

Diolch i Fiona am ei hangerdd a’i hymroddiad tuag at y Gymraeg ac am gefnogi ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae eleni. Cysylltwch â swyddfa@dathlu.cymru am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd!

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.         The Welsh language belongs to us all.

Comments are closed.
Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial