Cyhoeddi pencampwr cyntaf Diwrnod Shwmae Sumae 2019!
Dros y saith mlynedd diwethaf, mae ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae wedi bod yn galw ar bencampwyr hyd a lled Cymru i helpu hyrwyddo’r diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Mae’r pencampwyr yma, o bob math o gefndiroedd, yn helpu’r ymgyrch i hybu’r syniad o ddechrau BOB sgwrs yn Gymraeg, a defnyddio ymadroddion syml fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.
Bydd pum pencampwr yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Neil Rowlands, yn wreiddiol o Gaerdydd a nawr yn byw yng Nghasnewydd, yw ein pencampwr cyntaf am 2019! Dadansoddydd Data yw Neil, a sefydlwr y cylchgrawn dwyieithog arlein ‘Parallel’ – cylchgrawn sydd yn gwneud darllen yr iaith yn fwy hygyrch i ystod ehangach o bobl. Cafodd ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg trwy glywed cydweithwyr yn siarad yr iaith o gwmpas yr adran Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ar y pryd, roedd yn gweithio drws nesaf i’r adran ac roedd clywed y Gymraeg yn gyson am y tro cyntaf wedi neud iddo sylweddoli bod cymunedau o bobl yn defnyddio’r iaith bob dydd. Dyma’r gymuned hefyd yn y pendraw, wnaeth ei gefnogi fel dysgwr newydd, ynghyd â chanolfan iaith Tŷ Tawe. Ar ôl ymestyn ei fedrau iaith drwy siarad, dechreuodd wedyn gyfrannu nôl tuag at y gymuned Cymraeg drwy wirfoddoli, rhedeg y grŵp sgwrsio wythnosol i ddysgwyr, gweithio yn ad-hoc siop Tŷ Tawe ac mewn gigiau. O ran ei brofiad o ddysgu, meddai Neil:
“Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg wedi rhoi’r cyfle i mi ddarganfod diwylliant a llenyddiaeth Cymru, a chaniatáu i mi greu cannoedd o gysylltiadau a ffrindiau newydd. Felly, taswn i ddim wedi trio dweud ‘Shwmae’ i bobl ar ddechrau fy nhaith dysgu, faswn i ddim wedi ennill yr holl brofiadau gwych dwi wedi eu cael na chael y cyfle i roi yn ôl i’r diwylliant Cymraeg. Erbyn hyn, baswn i ddim yn gallu dychmygu fy mywyd heb yr iaith.”
Wrth esbonio pwysigrwydd ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae, meddai Neil:
“Mae lot o bobl yng Nghymru gyda rhyw fath o brofiad yn yr iaith, ond weithiau dydy ni ddim yn defnyddio’r iaith ddigon. Does dim ots os dyn ni’n iaith gyntaf neu gefndir di-Gymraeg. Er barhad yr iaith, mae angen i ni ddefnyddio hi cymaint â phosibl – mae’n well cynnal sgwrs gyda thipyn o Gymraeg a rhai geiriau Saesneg na siarad Saesneg yn unig. Fel mae rhywun call wedi dweud, gwell Cymraeg slac na Saesneg slic! Mae’n bwysig dros ben i bobl ar draws y wlad glywed yr iaith ar strydoedd, mewn siopau ac ysgolion, a hefyd dangos angen yr iaith mewn tiliau a pheiriannau arian parod er mwyn creu rhesymau i gwmnïoedd mawr darparu gwasanaethau trwy’r iaith.”
Diolch enfawr i Neil am ymuno gyda ni fel un o’n pencampwyr am y diwrnod cenedlaethol o ddathlu eleni! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.cymru am fwy o wybodaeth a chymorth pellach am drefniadau a digwyddiadau’r dydd a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd! Gallwch weld adnoddau cylchgrawn dwyieithog Parallel yma: https://parallel.cymru/