Cyhoeddi pedwerydd pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019

Cyhoeddi pedwerydd pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019

Valerie Humphreys, Dysgwraig o’r Iwerddon, Sonograffydd, Mam i dri, a Pencampwr Diwrnod Shwmae 2019!

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae wedi bod yn galw ar bencampwyr hyd a lled Cymru i helpu hyrwyddo’r diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Mae’r pencampwyr yma yn hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.

Ein pedwaredd bencampwraig i’w chyhoeddi eleni yw Valerie Humphreys, yn enedigol o Iwerddon mae erbyn hyn yn byw a gweithio yng Nghaerfyrddin. Mae’n gweithio rhan amser yn Ysbyty Glangwili fel seingraffydd (yn neud sganiau uwchsain), yn fam i dri o blant ac wedi bod yn dechrau ar y daith o ddysgu Cymraeg ers i’w phlant ddechrau yn yr ysgol Gymraeg lleol. Credai bod ysgolion yn gallu chwarae rôl bwysig iawn i gyflwyno’r iaith i deuluoedd heb y Gymraeg, gyda’r capasati o ddangos faint o hwyl sydd bosib cael gyda’r iaith – dyma beth ddechreuodd ei theulu ar y daith. Meddai Val;

“Dechreuais i ddysgu Cymraeg pan benderfynon ni i hala ein plant i Ysgol Cymraeg. Mae fy ngŵr yn dod o Iwerddon hefyd, felly doedd dim Cymraeg gyda ni yn y tŷ cyn hynny! Ond ro’n ni eisiau cefnogi ein plant gyda’u haddysg – darllen gyda nhw, helpu gyda gwaith cartre’ a hefyd i fod â’r gallu i gymryd rhan yn eu bywyd ysgol yn gyffredinol. Ro’n i’n dysgu Gwyddeleg a Ffrangeg pan o’n i’n yn yr ysgol, felly o’n i’n gobeithio byddwn i’n gallu dysgu Cymraeg yn ddigon hawdd hefyd! Roedd e’n anodd ar y dechrau, ond roedd y plant yn help mawr gyda fy nysgu, achos roeddwn i’n gallu ymarfer gyda nhw heb boeni! Fe wnaethon nhw fy nghywiro i gydag ynganiad a geirfa a phopeth! Erbyn hyn, dwi’n mynd i wersi Cymraeg yn Yr Atom yng Nghaerfyrddin pob wythnos, a dwi’n joio mas draw dysgu gyda fy nhiwtor a chyd-ddisgyblion, a byddaf yn dechrau Cwrs Uwch eleni! Mae llawer o ffrindiau gyda fi sy’n siarad Cymraeg, ac mae’n hyfryd i gael bywyd cymdeithasol gyda nhw heb boeni am ddeall pethau. A be sy’n grêt yw does ddim rhaid iddyn nhw newid eu hiaith er fy mwyn i! Mae’r iaith yn fy helpu gyda gwaith hefyd. Dwi’n gweithio gyda phobl ifanc, ac weithiau dydyn nhw ddim yn siarad Saesneg o gwbl. Ond nawr fy mod i’n gallu siarad Cymraeg dwi’n gallu helpu nhw i deimlo yn fwy cyfforddus achos maen nhw’n gallu cyfathrebu yn eu hiaith nhw.”

Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae Sumae a’i gyswllt â dysgu Cymraeg, meddai Val;

“Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn helpu lot gyda hyder. Mae dechrau dim ond wrth ddweud Shwmae wrth bobl – heb bwysau – yn meddwl does dim byd gyda chi i golli! Mae e’n hawdd i’w wneud. Ffordd mewn yw e, i ymuno’r gymuned Cymraeg, a phan dych chi’n dechrau dysgu’r iaith dych chi’n sylweddoli pa mor groesawgar yw ei phobl a faint dych chi’n gallu ennill! Ydy, mae e’n cymryd ymdrech i ddysgu iaith. Llawer o amser, llawer o boeni, llawer o gamgymeriadau. Y peth caletach yw ffeindio’r hyder i siarad â phobl – a phoeni am sut dych chi’n swnio neu os dych chi’n neud camgymeriadau. Er y bydda i yn Lloegr ar Ddiwrnod Shwmae Sumae eleni, dwi’n gobeithio bydda i’n ddechrau pob sgwrs gyda Shwmae, a drwy hynny, dechrau sgwrs amdano’r iaith gyda phobl heb wybodaeth o Gymraeg. Pwy sy’n gwybod, efallai wnaiff rhywun arall ddechrau dysgu?”

Diolch o galon i Val am gefnogi’r ymgyrch eleni ac i’r holl ddysgwyr sydd yn gweithio o fewn y GIC! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.cymru am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd!

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.           The Welsh language belongs to us all.

Comments are closed.
Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial