Cyhoeddi Pumed Pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019

Cyhoeddi Pumed Pencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2019

Dan McCallum, yn gweithio o fewn y sector Ynni Cymunedol, Dysgwr Cymraeg, Tad ac yn Bencampwr Shwmae Sumae!

Mi fydd Diwrnod Shwmae Sumae yn dathlu ei seithfed flwyddyn fel ymgyrch genedlaethol eleni, ac yn rhan o’r dathliadau mae yna gyfres o bencampwr yn rhan o ymgyrch 2019 yn gweithio hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Y syniad yw annog a helpu dinasyddion Cymru (boed yn rhugl, dysgwyr neu ond â chwpwl o eiriau) i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith.

Ein pumed pencampwr, a’r pencampwr olaf i gael ei gyhoeddi go gyfer Diwrnod Shwmae Sumae 2019 yw Dan McCallum o Tairgwaith ger Rhydaman, sydd yn dod yn wreiddiol o Aberplym (Plymouth). Gweithiodd gynt fel Rheolwr Oxfam yn Kurdistan, Gogledd Irac; fel Rheolwr Rhaglen Grŵp Hawliau Lleiafrifoedd Affrica a’r Dwyrain Canol; ac fel athro gyda ffoaduriaid Eritreaidd yn Sudan. Ers symud i Gymru ugain mlynedd yn ôl, a dechrau ar ei daith o ddysgu Cymraeg, mae Dan erbyn hyn yn rheolwr Awel Aman Tawe, elusen sy’n ymwneud â phrosiectau ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni ac amgylcheddol yng Nghymru. Mae’n gyfarwyddwr i Grŵp Cydweithredol Awel sydd wedi datblygu fferm wynt cymunedol ar Fynydd y Gwrhyd, i’r gogledd o Abertawe. Mae hefyd yn gyfarwyddwr ar fwrdd Grŵp Cydweithredol Egni Solar, sydd wedi bod yn gosod paneli solar ar adeiladau cymunedol ac ysgolion ers 2015, ac sydd yn gweithio nawr ar brosiect i osod hyd at 5MW o solar to ar draws Cymru. Mae ei wraig Emily, bardd ac artist, hefyd wedi dysgu Cymraeg, a buodd ei merched yn mynychu’r ysgol Gymraeg lleol. Wrth esbonio pwysigrwydd y Gymraeg iddo, a’i brofiad o ddysgu, meddai Dan,

“Mae’r Gymraeg yn bwysig i mi, oherwydd mae fy ngwaith i yn digwydd o fewn y gymuned leol a llu o gymunedau eraill yng Nghymru, a’r Gymraeg yw iaith naturiol llawer o’r bobol rwy’n gweithio gyda. Fel profais gyda fy ngwaith rhyngwladol cyn dod i fyw yng Nghymru, mae gallu deall iaith, bod yn barchus ohoni ac o’i siaradwyr ac o’i hanes a’i gysylltiadau diwylliannol, yn hanfodol, os ydych chi am gydweithio gyda chymunedau. Ers dysgu Cymraeg, dwi wedi neud sawl cyflwyniad yn y Gymraeg, a chyfathrebu yn y Gymraeg yn naturiol. Mae hyn yn bwysig i mi, ac rwy’n gallu teimlo’n falch o fy hun, fy mod i nawr yn gallu cyfri fy hun yn siaradwr Cymraeg! Wy’n mwnau hefyd siarad â fy ewythr a fy nheulu o Fetws, Rhydaman ble mae fy mam yn dod o yn wreiddiol. Cymraeg oedd ei iaith cynta’ hi a’i hochr hi o’r teulu – felly roedd fy ewythr yn hapus iawn fy mod i wedi dysgu Cymraeg, a reit o’r dechrau, newidiodd e i siarad dim ond Cymraeg da fi. Mae llawer o bobl yng Nghwmllynfell ble wy’n gweithio yn siaradwyr Cymraeg, fel Mark y Cigydd sy’n helpu fi i siarad yn y Gymraeg!”

Ar Ddiwrnod Shwmae Sumae eleni, mi fydd Dan yn tywys grŵp o ddisgyblion o Gasnewydd o gwmpas y tyrbin gwynt cymunedol ar Fynydd y Gwrhyd, ac yn gobeithio bydd bosib anfon neges arbennig o brosiect celf diweddar Egni Coop, sydd yn codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd drwy anfon artist lleol i’r lleuad! Disgwyliwn ymlaen i gael Shwmae a Sumae o’r gofod eleni!

Diolch o galon i Dan am gefnogi’r ymgyrch eleni ac edrychwch ar wefan egni.coop er mwyn cefnogi’r fenter gymunedol gyffrous hon sydd yn gweithio tuag at di-garboneiddio Cymru. Cysylltwch â swyddfa@dathlu.cymru am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd!

 

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb. The Welsh language belongs to us all.

Comments are closed.
Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial