Beth yw Diwrnod Shwmae Sumae?

Beth yw Diwrnod Shwmae Sumae?

Beth yw Diwrnod Shwmae Sumae?

Dathlwyd y Diwrnod Shwmae Sumae cyntaf ar 15 Hydref, 2013 i hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi! Nôd y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg. Mae’r Diwrnod yn cael ei ddathlu pob blwyddyn erbyn hyn ar 15 Hydref

Pwy sy’n dathlu Diwrnod Shwmae Sumae?

CHI!  Cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, gyda ffrindiau. Yn y gorffennol dathlodd ysgolion, bwytai a gorsafoedd radio y diwrnod dros Gymru gyda digwyddiadau yn digwydd yn Lloegr, Ewrop a’ r Ariannin yn y gorffennol.

Sut allwch chi ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae?

Am syniadau cerwch at dudalen Facebook a Twitter, neu edrychwch o dan y ddolen adnoddau ar y wefan hon. Gadewch i ni wybod beth fydd eich digwyddiad eleni ar gyfer Diwrnod Shwmae Sumae.

Pwy sy’n ei gyd-lynnu?

Mentrau Iaith Cymru sy’n cymryd yr awenau o 2024 gyda’r 22 Menter drwy Gymru gyfan yn hyrwyddo’r ymgyrch yn eu hardaloedd lleol. I ddod o hyd i wybodaeth am eich Menter leol chi, ewch i : https://mentrauiaith.cymru/

Sut allai gysylltu gyda chi?

Ewch ar Facebook, Twitter Instagram neu e-bostiwch diwrnodshwmae@gmail.com

Bydd oedi cyn ymateb gan taw mond un aelod o staff rhan amser sydd yn gweithio ar y prosiect.

Be dwi’n neud nesaf?

Trefnwch rhywbeth ond cofiwch rhoi gwybod inni, beth, ble a phryd!

Nid yw Diwrnod Shwmae yn ddibynnol ar grant na chymorth ariannol mae’n ddibynnol ar afiaith, creadigrwydd, ewyllys da a’ch hysbrydoliaeth chi!

 

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial