Newyddion
Dathlu pobl a’u straeon wrth ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae 2026
Dathlu’r bobl amrywiol sy’n defnyddio’r Gymraeg fydd prif thema Diwrnod Shwmae Su’mae 2026 wrth i Fentrau Iaith Cymru baratoi ar gyfer y digwyddiad blynyddol. Bydd yr ymgyrch yn cyrraedd uchafbwynt ar ddiwrnod cenedlaethol o ddathlu, dydd Iau, 15 Hydref.
Eleni, bydd yr ymgyrch “Pwy Sy’n Dweud Shwmae?” yn annog pobl o bob oed, cefndir a chymuned i rannu fideo ohonynt eu hunain, neu rywun yn eu cymuned, gan ddangos pwy ydyn nhw, o ble maen nhw’n dod, a sut mae’r Gymraeg yn rhan o’u bywydau.
Meddai Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, “Mae Diwrnod Shwmae Su ’mae yn gyfle i gynyddu defnydd y Gymraeg. Rydyn ni eisiau dangos bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio gan bobl o bob math o gefndiroedd, oedrannau a chymunedau ledled Cymru. Eleni, byddwn yn rhoi’r bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg wrth galon yr ymgyrch, a dathlu’r straeon unigryw sydd gan bawb i’w hadrodd.”
Wrth grynhoi syniad yr ymgyrch, meddai Lucy Hope, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu Mentrau Iaith Cymru, “Pwy wyt ti? O ble wyt ti’n dod? Beth yw dy stori? Rydyn ni eisiau gweld pobl o bob rhan o Gymru yn dweud Shwmae yn eu ffordd eu hunain. Gallai fod yn ffermwr yng nghefn gwlad Ceredigion, yn ddisgybl mewn ysgol, yn gerddor, yn athletwr, yn berchennog busnes neu’n unrhyw un arall sy’n defnyddio’r Gymraeg. Dangoswch pwy ydych chi, wrth dweud Shwmae ac rydym yn eich annog i enwebu rhywun arall i ddweud ‘Shwmae’ nesaf ar ddiwedd eich fideo i annog eraill i gymryd rhan”
Mae syniadau eraill i ddathlu’r diwrnod ar gael ar wefan Shwmae Su’mae – shwmae.cymru – gyda sticeri, ffrâm hunlun a swigod ‘shwmae’ ar gael i’w lawrlwytho a syniadau ac adnoddau ar gael i ysgolion, sefydliadau, grwpiau a chymunedau yn ein pecyn hyrwyddo. Mae croeso i bawb addasu’r ymgyrch a dathlu mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw. Ar gyfer cymorth neu gyngor ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â diwrnodshwmae@gmail.com neu eich Menter Iaith leol.
Wrth rannu fideo neu weithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol, cofiwch ddefnyddio’r hashnod #shwmae26 a thagio cyfrifon Diwrnod Shwmae Su’mae a Mentrau Iaith Cymru.
Diwedd
Nodyn i Olygyddion:
Dathlwyd y Diwrnod Shwmae Su’ mae cyntaf ar 15 Hydref, 2013 i hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg! Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar 15 Hydref. Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ac annog pawb i ddechrau sgyrsiau yn Gymraeg, a fyddai’n arwain at ddefnydd mwy o’r Gymraeg drwy gydol y flwyddyn.
Cydlynir ymgyrch Diwrnod Shwmae Su ’mae 2026 gan Mentrau Iaith Cymru, rhwydwaith o 22 o fentrau iaith ledled Cymru sy’n creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd a’u cymunedau lleol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: