ShwmaeSumae2018

ShwmaeSumae2018

Cyhoeddi pumed Pencampwr 2018!

Iestyn ap Dafydd, cyd-sylfaenydd SaySomethinginWelsh

Mi fydd Diwrnod Shwmae Sumae yn dathlu ei chweched flwyddyn fel ymgyrch genedlaethol eleni, ac yn rhan o’r dathliadau mae yna gyfres o bencampwr yn rhan o ymgyrch 2018 yn gweithio hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Y syniad yw annog a helpu dinasyddion Cymru (boed yn rhugl, dysgwyr neu ond â chwpwl o eiriau) i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith.

Ein pumed pencampwr, a’r pencampwr olaf i gael ei gyhoeddi go gyfer Diwrnod Shwmae Sumae  2018 yw  Iestyn ap Dafydd o Landysul, un o sylfaenwyr SaySomethinginWelsh.com. Yn wreiddiol o Gwm Rhymni, cafodd ei addysg yn Gymraeg er nad Cymraeg oedd iaith ei gartref. Meddai Iestyn,

“Bu bron i fi golli fy Nghymraeg ar ôl gadael ysgol, ac er i fi ei hachub mewn pryd, rwy’n deall yn iawn pa mor hawdd yw colli iaith, a pha mor anodd yw ei hadennill. Ar ôl fy adferiad, ro’n i am wneud rhywbeth i helpu i sicrhau dyfodol yr iaith trwy ei gwneud hi’n haws i bobl ei defnyddio. Tarwyd ar y syniad (gydag Aran Jones) o ddefnyddio’n profiadau dysgu ieithoedd gwahanol i lunio cwrs newydd   ar gyfer y Gymraeg, a ddaeth yn ‘SaySomethinginWelsh’. Erbyn hyn, mae dros 50,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y cwrs (dros bron i 10 mlynedd), ac rydyn ni wrthi’n datblygu system fydd yn gweddnewid y ffordd, a’r amser y mae’n cymryd i bobl ddysgu Cymraeg. Trwy’r cwrs newydd, rydyn ni’n gallu tywys pobl ar daith o ddim i allu cymryd rhan mewn sgyrsiau bob dydd, a hynny ymhen 6 mis os ydyn nhw’n fodlon treulio rhyw 4 awr yr wythnos arni.”

Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae, meddai Iestyn,

“Mae’n gyfle i godi proffil y Gymraeg drwy’r byd, a thrwy hynny i annog pobl i ddefnyddio / dysgu / dysgu rhagor. Rydw i’n bwriadu cynnal ‘Shwmaeathon’ 24 awr ar-lein, lle   bydd   modd   i fi   siarad   yn   uniongyrchol   gyda siaradwyr Cymraeg – boed yn siaradwyr bore oes, neu’n siaradwyr newydd   sbon   –   trwy’r   byd   i   gyd.     Gan ddechrau am 3 y bore ar y 15fed (er mwyn  dal Seland Newydd cyn iddynt fynd i’r gwely) a chwpla am 3 fore trannoeth (wrth i bobl Hawaii gael eu cinio), dwi’n gobeithio gallu cynnal sgyrsiau cyson trwy’r cyfnod, a chodi ymwybyddiaeth y Cymry, gartref ac alltud, o ba mor eang y mae’r iaith yn cael ei siarad a’i dysgu.

Bydd Iestyn yn derbyn nawdd gan bobl i godi arian ar gyfer elusen Cymraeg yn Llandysul, sef Calon Tysul, y ganolfan hamddena gymunedol. Diolch o galon i Iestyn am fod yn bencampwr mor weithgar dros y Gymraeg. Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.

The Welsh language belongs to us all.

Cyhoeddi pedwaredd bencampwraig Shwmae Sumae 2018!

Dr Lisa Forrest

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae wedi bod yn galw ar bencampwyr hyd a lled Cymru i helpu hyrwyddo’r diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Mae’r pencampwyr yma yn hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.

Ein pedwaredd bencampwraig i’w chyhoeddi eleni yw Dr Lisa Forrest, yn enedigol o Halifax, Swydd Efrog, wedi ei magu yn Plymouth, ac erbyn hyn yn byw a gweithio yng Nghaerfyrddin. Meddyg gyda’r GIC yw Lisa, yn gweithio yn Ysbyty Glangwili – a’i harbenigedd yng nghlefyd y siwgr. Pan symudodd i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd y daeth Lisa mewn i gyswllt â’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf. Meddai Lisa;

“Cwrddais i gyda phobl Cymraeg am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ro’n i wedi’n syfrdanu gan yr iaith a diwylliant Cymraeg. Ar y pryd, yn anffodus, doedd dim amser da fi dysgu’r iaith, ond ar ôl i fi orffen yn y Brifysgol cwrddais i gyda fy ngŵr a oedd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.  Dw i’n gallu cofio fe’n siarad ar y ffôn gyda’i deulu a’i ffrindiau ac yn raddol dechreuais i glywed fwy a fwy o Gymraeg. Ro’n i’n arfer teimlo yn anghyfforddus pan oedd rhaid iddo fe droi at Saesneg oherwydd fi. Felly, penderfynais i ddysgu’r iaith ar ôl genedigaeth fy mhlentyn cyntaf ac ar yr adeg hynny dechreuais fynd i wersi Cymraeg a grwpiau Ti a Fi. Dechreuais i ddefnyddio fy Nghymraeg yn syth a wnes i fwynhau canu  a darllen yn y Gymraeg gyda fy mab. Dechreuodd fy hyder tyfu o’r fan hynny ymlaen.”

“Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn gyfle i bawb defnyddio eu Cymraeg, heb ots am safon eu Cymraeg. Rhaid gweud, bod fy mywyd i wedi ei gyfoethogi ar ôl i fi ddysgu Cymraeg.  Dw i wedi dysgu am hanes a diwylliant Cymru a dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.  Dw i’n gallu mwynhau llyfrau a cherddoriaeth Cymraeg ac dw i’n gyfforddus mewn sefyllfa Cymraeg ac yn falch iawn fod dim rhaid i neb troi at y Saesneg oherwydd fi.  Byddwn i’n annog pobl i ddysgu ‘r iaith a defnyddio’r iaith.  Does dim ots os bo chi ddim yn gwybod pob gair yn Gymraeg.  Mae’n bwysig bod yn amyneddgar pan dych chi’n dysgu’r iaith.  Marathon yw e dim sprint! Ar Diwrnod Shwmae Sumae, mae’n bwysig iawn i ddechrau bob sgwrs yn y Gymraeg.  Mae’n amhosib dweud pa iaith mae pobl yn gallu siarad, ac felly mae’r gweud y pethau bach fel ‘shwmae’, ‘bore da’ ayyb yn gallu agor drysau.”

Diolch o galon i Lisa am gefnogi’r ymgyrch eleni ac i holl ddysgwyr y Gymraeg sydd yn bodoli o fewn ein Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yma yng Nghymru! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb. The Welsh language belongs to us all.

A’r trydydd pencampwr yw…

Matt Spry

Mae pencampwyr hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo Diwrnod Shwmae Sumae eleni (a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn), gan hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith.

Rydym yn hynod o falch i gael cyhoeddi taw ein trydydd pencampwr yw dysgwr y flwyddyn eleni, sef Matt Spry  – yn wreiddiol o Aberplym (Plymouth) yn ne-orllewin Lloegr, ac sydd erbyn hyn yn byw yn Waunudda (Adamsdown), Caerdydd. Mae Matt yn gweithio i Dysgu Cymraeg Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd, fel tiwtor a threfnydd sy’n dysgu ffoaduriaid a cheiswyr lloches – gan gynnwys trefnu gweithgareddau, ymweliadau a digwyddiadau Cymraeg ar eu cyfer. Fe dreuliodd Matt amser yng Nghymru gyntaf yn y 90au, yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol, cyn symud nôl yn 2013, a phenderfynu dysgu Cymraeg yn 2015. Cwympodd mewn cariad â’r iaith yn syth, ac mae dysgu’r Gymraeg wedi newid ei fywyd yn llwyr. Enillodd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Caerdydd 2018, ac erbyn hyn mae’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd. Meddai Matt;

“Mae ymgyrch Diwrnod Shwmae yn ffordd wych i annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd – siaradwyr iaith gyntaf, dysgwyr profiadol a dysgwyr newydd sbon.  Mae’n rhoi hyder i bobl i ddechrau defnyddio mwy o Gymraeg yn ei bywydau bob dydd a hefyd dylanwadu ar bobl eraill i ymddiddori yn y Gymraeg a dechrau dysgu Cymraeg.  Mae’n bwysig iawn i fi, yn enwedig o fewn yr ardal ble dw i’n byw – Waunadda yng Nghaerdydd.  Dyw hi ddim yn ardal nodedig am ei Chymraeg ond mae mwy o siaradwyr a dysgwyr yno nag o’n i’n meddwl pan symudais i yno.  Mae’n bwysig i ni i gyd sy’n byw yn yr ardal i normaleiddio Cymraeg drwy sicrhau ei fod yn cael ei chlywed a’i siarad ar y strydoedd, yn y caffis a siopau ac yn y tafarnau – i ddangos bod yr iaith yn iaith fyw yn yr ardal. Gobeithio gall hyn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned neu dechrau dysgu.”

“Ar Ddiwrnod Shwmae Sumae eleni, bydd yna grŵp o ddysgwyr (sy’n cwrdd bob dydd Llun am 10.45 – 11.45 yng Ngwesty’r Pentre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd) yn gobeithio cynnal digwyddiad yn Oasis Caerdydd, canolfan sy’n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddysgwyr cwrdd â ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n dysgu Cymraeg – er mwyn eu helpu nhw ymarfer eu Cymraeg, rhoi’r cyfle i’r ffoaduriaid a cheiswyr lloches cwrdd â dysgwyr eraill ac i annog mwy ohonyn nhw i ddysgu Cymraeg.”

Diolch i Matt am gefnogi’r ymgyrch eleni! Gobeithio bydd llawer o weithgarwch lawr yng Nghaerdydd i gefnogi Matt fel un o’n pencampwyr. Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth, a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.           The Welsh language belongs to us all.

 

Ein hail bencampwraig am 2018!

Gwennan Mair

Dyma’r ail bencampwraig a gyhoeddir yr wythnos hon yn rhan o ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae 2018. Mae pencampwyr a phencampwragedd hyd a lled Cymru yn ein helpu i hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn, sef i hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, a defnyddio ymadroddion syml, fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.

Yr ail berson i gael ei chyhoeddi fel pencampwr 2018 yw’r artist a Chyfarwyddwraig Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd Gwennan Mair o Lanffestiniog yn wreiddiol ond erbyn hyn yn byw yn Rhuthun.  Ar ôl cael ei magu ar fferm yn Llanffestiniog, symudodd i astudio yn LIPA (Liverpool Institue of Perfrorming Arts) yn Lerpwl am 3 mlynedd. Ers teithio yn eang, mae ganddi ddiddordeb mawr yn ieithoedd ac ar fywyd amlddiwylliannol, materion y mae’n gallu ymwneud a nhw trwy ei gwaith yn Theatr Clwyd. Mae ganddi ddiddordeb yn enwedig mewn llenyddiaeth a cherddoriaeth gyfoes Cymraeg a go gyfer Diwrnod Shwmae Sumae meddai;

“Dwi am fynd â vinyls i’r gwaith a threulio’r bora yn chware cerddoriaeth byw, a sgwrsio efo pobl sy’n pasio, sy’n gweithio neu’n cael cinio yn Theatr Clwyd. Dwi wir yn meddwl bod y celfyddydau yn ffordd wych o hyrwyddo’r iaith ag yn ffordd ‘chilled’ o gychwyn sgwrs.”

O ran dyfodol yr iaith a hybu mwy o ddiddordeb yn yr iaith ar draws cymunedau Cymru, meddai,

“Dwi’n meddwl bod o’n bwysig rhoid hyder i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg ei fod yn iawn i ‘just’ trio. Dwi yn credu mewn cywirdeb ond dyle bod hyn ddim yn rhwystro neb rhag mentro. Mae rhaid cynnig helpu, dangos y ffordd drwy fynd i ddigwyddiadau, rhannu dywediadau, tywys pobl i gigs, a meithrin pobl i fentro dysgu’r iaith. Dwi wir ddim yn credu mewn creu wal rhwng llefydd na rhwng pobl – rhaid rhannu, gwrando a dysgu gyda’n gilydd.”

Diolch enfawr i Gwenno am ymuno gyda ni fel un o’n pencampwyr hyfryd am y dydd cenedlaethol o ddathlu eleni! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth pellach am drefniadau a digwyddiadau’r dydd a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb. The Welsh language belongs to us all.

Cyhoeddi Pencampwraig gyntaf Shwmae Sumae 2018!

Dani Schlick

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae wedi bod yn galw ar bencampwyr hyd a lled Cymru i helpu hyrwyddo pwrpas y diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Mae’r pencampwyr yma yn hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, a defnyddio ymadroddion syml fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.

Rydym yn hynod o falch o gyhoeddi taw ein pencampwr cyntaf am 2018 yw Dani Schlick, yn wreiddiol o Sacsoni a Berlin yn yr Almaen, ac erbyn hyn yn byw ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn.  Dechreuodd Dani ddysgu Cymraeg yn yr Almaen ar ôl cwympo mewn cariad â’r iaith pan ar wyliau yng Nghymru. Yn 2015, symudodd i fyw yng Nghymru i ddysgu mwy ar y Gymraeg, ac fe lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2017. Erbyn hyn mae’n cyfrannu’n helaeth tuag at nifer o ddigwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol yn y Gymraeg – fel Panad a Sgwrs yn siop lyfrau Palas Print, Caernarfon, a Pheint a Sgwrs ym Mangor. Mae Dani yn gweithio i Fentrau Iaith Cymru fel cydlynydd sydd yn datblygu defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes. Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae Sumae, a’i rôl fel un o bencampwyr y diwrnod meddai Dani:

“Mae’n bwysig i godi ymwybyddiaeth ac i fagu hyder dysgwyr. Mae hi mor anodd i gymaint o bobl dechrau sgwrs yn y Gymraeg. Mae’r dathliad genedlaethol yma yn dangos bod yna ffordd hawdd i ddechrau sgwrs Gymraeg, yn syml – trwy ddweud “Shwmae” neu “Sumae”. Mae’r diwrnod yn   gyfle   gwych   i   ddysgwyr   dechrau   sgwrsio   yn   y Gymraeg   –   ac   i   Gymry   Cymraeg   dechrau   siarad Cymraeg efo dysgwyr.”

Mi fydd Dani yn gweithio o fewn ei chymuned yn y gogledd-orllewin yn ystod y diwrnod;

“Byddaf yn hyrwyddo y diwrnod yn fy ngwaith newydd gyda Mentrau Iaith Cymru trwy hysbysebu’r ymgyrch yn siopau a chaffis fy ardal i. Byddaf hefyd yn mynychu digwyddiadau sydd yn ymwneud â Diwrnod Shwmae Sumae, hysbysebu’r diwrnod a digwyddiadau yn y sesiynau sgwrsio rwyf yn eu trefnu ac yn rhannu   digwyddiadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol.”

Diolch i Dani am ei hangerdd a’i hymroddiad tuag at y Gymraeg ac am gefnogi ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae eleni. Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!             Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.         The Welsh language belongs to us all. 

 

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial