Cychwynnwch gyda Shwmae er mwyn cyfrannu at sgwrs genedlaethol

Gyda dim ond dyddiau i fynd at Ddiwrnod Shwmae Su’mae, disgwylir cannoedd o ddigwyddiadau ar hyd a lled y wlad a thu hwnt.

Byddwch yn rhan o rywbeth enfawr trwy gyfarch eich gilydd yn Gymraeg ar ddydd Sadwrn 15 Hydref. Gallai un Shwmae neu Su’mae ysbrydoli cannoedd neu filoedd mwy yn ystod y flwyddyn.

Mae Dathlu’r Gymraeg, y mudiad ambarél tu ôl i Shwmae Su’mae yn pwysleisio fod y diwrnod yn eiddo i bawb. Mae’r fenter wedi sefydlu gwreiddiau cadarn dros y pedair blynedd ddiwethaf diolch i ymdrechion ar lawr gwlad. Dywed Rebecca Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg:

“Mae Diwrnod Shwmae Su’mae’n gyfle i ddathlu’r iaith – ac i sicrhau’r nifer fwyaf o gyfleoedd posib i’w defnyddio – drwy gyfarch yn Gymraeg ar y dechrau, yn hytrach na diolch yn Gymraeg ar y diwedd!”

Cefnogir yr ymgyrch gan bobl ddylanwadol ac ysbrydoledig. Bydd yr artist a chyn gantores-pop, Swci Delic yn gwneud siŵr fod yr ymgyrch yn denu eich sylw, gan ddefnyddio ei steil unigryw o batrymau a lliwiau llachar.

Shwmae Shwmae Swci Delic

 

Swci DelicMeddai Swci:

“Mae’n anrhydedd bod yn bencampwr Diwrnod Shwmae Su’mae. Pan gefais y gwahoddiad, penderfynais ddangos fy nghefnogaeth trwy wneud be fi’n hoffi gwneud fwyaf, peintio.  Roeddwn eisiau creu rhywbeth sbeshial i ddathlu’r diwrnod unigryw ‘ma.

“Trwy gychwyn pob sgwrs gyda Shwmae neu Su’mae, pwy a ŵyr lle aiff eich sgwrs? Dathlwch iaith y nefoedd!”

Mae golygfa liwgar yn aros trigolion tref enedigol Swci, sef Caerfyrddin, nos Wener, pan fydd y gwaith celf yn goleuo waliau Neuadd y Sir. Bydd cardiau post gyda’r patrwm trawiadol ar gael mewn digwyddiadau ar hyd a lled Cymru.

Hefyd yn cefnogi’r ymgyrch mae Osian Williams o’r band Candelas a Gwennan Mair sy’n gyflwynydd Radio Cymru Mwy a hwylusydd drama gyda Chwmni’r Frân Wen. Mae’r rhaglen ‘Run Sbit wedi agor drysau’r swyddfa ‘lookalikes’ yn arbennig ar gyfer yr ymgyrch, ac mae cynhyrchiad doniol iawn ar y we o Caren a Linda Brown yn paratoi ar gyfer diwrnod Shwmae Su’mae.

Gan fod Shwmae Su’mae yn disgyn ar ddydd Sadwrn eleni, bydd nifer o weithleoedd, ysgolion a cholegau yn dathlu dydd Gwener. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddathlu dwywaith. Bydd rhai ysgolion, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Pontypridd, yn dathlu dros wythnos gyfan.

Cynigir rhywbeth at ddant pawb:

  • Gall babanod yng Nghaerdydd fwynhau’r olygfa tra mae rhieni yn gwthio pramiau  a sgwrsio yn y Gymraeg o gwmpas Llyn y Rhath.
  • Mae Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru, yn galw ar ysgolion i gystadlu mewn cystadleuaeth farddoni.
  • Bydd gryn sŵn wrth i fyfyrwyr Coleg Pen-y-bont ar Ogwr gael sesiwn Clocs Ffit gyda Tudur Phillips
  • Bydd balwnau gyda negeseuon arbennig Shwmae  yn cael eu rhyddhau o Bafiliwn Porthcawl.
  • Boreau coffi o Wrecsam i Gaerffili.
  • Gwobrwyo dysgwyr yn Sir Benfro.
  • Gŵyl i ddysgwyr yn Llandrindod.
  • Noson cawl â chân yn Nolgellau.
  • Coctels Shwmae yng Nghaerdydd.
  • Sicrhewch fargen gan fusnesau sy’n cynnig disgownt i gwsmeriaid sy’n dweud Shwmae.
  • Rhestr lawn ar y dudalen ddigwyddiadau.

Dengys Ashok Ahir, dysgwr sydd wedi llwyddo cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol a phencampwr Shwmae Su’mae, fod gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn dda i fusnes. Mae’n gyfarwyddwr i gwmni PR Mela, sy’n ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth dwyieithog ac yn chwarae rhan allweddol yn ymgyrch lwyddiannus Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Together Stronger.

Shwmae Ashok AhirDyma gyngor Ashok i ddysgwyr:

“Cymrwch un cam ar y tro, gan ddechrau a Shwmae. Peidiwch poeni am weddill y sgwrs. Ar y dechrau, byddwn i’n cymysgu geiriau Cymraeg a Saesneg. Mae hyn yn rhan annatod o ddysgu sy’n gwella wrth ymarfer.

“Mae Shwmae Su’mae yn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg pob dydd, trwy ddangos pa mor hawdd y gall fod. Mae’n gyfle i fagu hyder trwy siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol.”

Hanfod Diwrnod Shwmae Su’mae yw cymunedau’n dod at ei gilydd i ddweud Shwmae mewn modd sy’n llawn hwyl a chynhwysol.

Dywed Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:

“Cofiwch gysylltu â’ch Menter Iaith leol heddiw i glywed mwy am y gweithgareddau yn eich ardal chi.”

Gellir dod o hyd i holl fanylion cysylltu’r Mentrau Iaith ar wefan Mentrau Iaith Cymru (www.mentrauiaith.cymru/dod-o-hyd-i-fenter).