Dr Lisa Forrest!
Cyhoeddi pedwaredd bencampwraig Shwmae Sumae 2018!

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae wedi bod yn galw ar bencampwyr hyd a lled Cymru i helpu hyrwyddo’r diwrnod cenedlaethol a’i cynhelir ar y 15fed o Hydref bob blwyddyn. Mae’r pencampwyr yma yn hybu’r syniad o ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith, ymysg eu rhwydweithiau a’u cymunedau nhw.
Ein pedwaredd bencampwraig i’w chyhoeddi eleni yw Dr Lisa Forrest, yn enedigol o Halifax, Swydd Efrog, wedi ei magu yn Plymouth, ac erbyn hyn yn byw a gweithio yng Nghaerfyrddin. Meddyg gyda’r GIC yw Lisa, yn gweithio yn Ysbyty Glangwili – a’i harbenigedd yng nghlefyd y siwgr. Pan symudodd i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd y daeth Lisa mewn i gyswllt â’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf. Meddai Lisa;
“Cwrddais i gyda phobl Cymraeg am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ro’n i wedi’n syfrdanu gan yr iaith a diwylliant Cymraeg. Ar y pryd, yn anffodus, doedd dim amser da fi dysgu’r iaith, ond ar ôl i fi orffen yn y Brifysgol cwrddais i gyda fy ngŵr a oedd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Dw i’n gallu cofio fe’n siarad ar y ffôn gyda’i deulu a’i ffrindiau ac yn raddol dechreuais i glywed fwy a fwy o Gymraeg. Ro’n i’n arfer teimlo yn anghyfforddus pan oedd rhaid iddo fe droi at Saesneg oherwydd fi. Felly, penderfynais i ddysgu’r iaith ar ôl genedigaeth fy mhlentyn cyntaf ac ar yr adeg hynny dechreuais fynd i wersi Cymraeg a grwpiau Ti a Fi. Dechreuais i ddefnyddio fy Nghymraeg yn syth a wnes i fwynhau canu a darllen yn y Gymraeg gyda fy mab. Dechreuodd fy hyder tyfu o’r fan hynny ymlaen.”
“Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn gyfle i bawb defnyddio eu Cymraeg, heb ots am safon eu Cymraeg. Rhaid gweud, bod fy mywyd i wedi ei gyfoethogi ar ôl i fi ddysgu Cymraeg. Dw i wedi dysgu am hanes a diwylliant Cymru a dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Dw i’n gallu mwynhau llyfrau a cherddoriaeth Cymraeg ac dw i’n gyfforddus mewn sefyllfa Cymraeg ac yn falch iawn fod dim rhaid i neb troi at y Saesneg oherwydd fi. Byddwn i’n annog pobl i ddysgu ‘r iaith a defnyddio’r iaith. Does dim ots os bo chi ddim yn gwybod pob gair yn Gymraeg. Mae’n bwysig bod yn amyneddgar pan dych chi’n dysgu’r iaith. Marathon yw e dim sprint! Ar Diwrnod Shwmae Sumae, mae’n bwysig iawn i ddechrau bob sgwrs yn y Gymraeg. Mae’n amhosib dweud pa iaith mae pobl yn gallu siarad, ac felly mae’r gweud y pethau bach fel ‘shwmae’, ‘bore da’ ayyb yn gallu agor drysau.”
Diolch o galon i Lisa am gefnogi’r ymgyrch eleni ac i holl ddysgwyr y Gymraeg sydd yn bodoli o fewn ein Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yma yng Nghymru! Cysylltwch â swyddfa@dathlu.org am fwy o wybodaeth a chymorth a gwelwch ein gwefan www.shwmae.cymru am adnoddau i’ch rhoi ar eich ffordd…!